Mae'n bryd setlo problemau tai wedi degawdau o ymgyrchu

Mae disgwyl i gannoedd o bobl orymdeithio ar draws Faes yr Eisteddfod Genedlaethol at stondin Llywodraeth Cymru, yn dilyn rali gan Gymdeithas yr Iaith yn galw am Ddeddf Eiddo.

Ymhlith y rhai fydd yn annerch rali "Nid yw Cymru ar Werth" am 2pm Mercher 9ed o Awst bydd Cynghorwyr Sir Gwynedd Rhys Tudur ac Elin Hywel, cyn-ymgeisydd y Blaid Lafur yn yr etholaeth Cian Ireland, cyn-Brif Weithredwr Cymdeithas Tai Grŵp Cynefin a'r gantores Catrin O'Neill o Siarter Cartrefi Cymru. Bydd y rali'n dod i ben wrth stondin Llywodraeth Cymru lle bydd galwad am gyflwyno Deddf Eiddo yn y tymor seneddol hwn.

Ar ran Gweithgor Nid yw Cymru ar Werth y Gymdeithas, esboniodd Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith:
"Mae'r Llywodraeth wedi cytuno i gymryd camau i reoli gormodedd ail gartrefi a llety gwyliau, ond 'dyn nhw ddim hyd yma wedi trin gwraidd y broblem - sef bod y farchnad agored yn gweld tai fel asedau masnachol, nid fel cartrefi i gynnal pobl yn eu cymunedau. Addawyd yn ôl yn 2021 Bapur Gwyn ar Ddeddf Eiddo i reoli'r farchnad dai, a byddwn yn galw ar y Llywodraeth i gyflwyno Ddeddf Eiddo'n fuan wedyn yn ystod y tymor seneddol hwn. Mae amser yn mynd yn brin, ac mae'n bryd setlo'r broblem dai wedi'r degawdau o ymgyrchu".

Mewn datblygiad arall, cyhoeddodd aelod o weithgor Nid yw Cymru ar Werth y Gymdeithas, Ffred Ffransis, 75 oed o Ddyffryn Teifi, ei benderfyniad i ymprydio - gan gymryd dŵr yn unig - am y 75 awr o 12.00 Sul 6ed Awst nes bod yr orymdaith yn cyrraedd stondin y Llywodraeth ar y prynhawn Mercher. Bydd yn cynnal gwyliadwriaeth tu allan i stondin y Llywodraeth ar y Maes, ac yn rhannu taflenni'n annog y cyhoedd i ymuno â'r ymgyrch.

Esboniodd Mr Ffransis:
"Mae'r Gymdeithas wedi bod yn cynnal ymgyrch "Nid yw Cymru ar Werth" ers degawdau ac enillwyd llawer o gonsesiynau. Ond mae pwysau'r farchnad dai wedi cynyddu, ac mae pobl ifainc yn cael eu gorfodi allan o'u cymunedau gan nad ydynt yn gallu cystadlu yn ariannol gyda'r rhai sy'n symud o ardaloedd mwy cyfoethog. Mae'n broblem ledled Cymru, ac mae ein cymunedau Cymraeg yn cael eu chwalu o flaen ein llygaid. Daeth yn bryd setlo'r broblem gyda deddfwriaeth radical. Gall Llywodraeth Cymru osod esiampl i'r byd trwy gyflwyno Deddf fydd yn creu cymunedau cynaliadwy trwy sefydlu mai prif ddiben polisïau tai yw darparu cartrefi i bobl yn eu cymunedau a sefydlu marchnad leol ar gyfer mwyafrif tai. Nid gweithred yn erbyn y Llywodraeth fel y cyfryw fydd fy ympryd, ond ymgais i ddangos i'n pobl mor ddifrifol yw'r sefyllfa a'u hannog i ymuno yn yr ymgyrch."