Sianel newydd i'r Alban, briwsion i Gymru - angen datganoli darlledu

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i'r newyddion y bydd gan yr Alban sianel deledu newydd a ddarperir gan y BBC. 

Ddechrau'r flwyddyn, galwodd y mudiad am ddatganoli darlledu i Gymru gan ddadlau y byddai modd sefydlu rhagor o sianeli teledu a gorsafoedd radio Gymraeg wedi i'r cyfrifoldeb symud i'r Cynulliad.  

Dywedodd Heledd Gwyndaf Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: 

"Mae yna sianel newydd i'r Alban, a dim ond briwsion i ni yng Nghymru. Mae'r BBC yn ceisio traflyncu S4C ac wedi cynorthwyo'r Llywodraeth Geidwadol i dorri ein hunig sianel deledu Gymraeg. Chawn ni ddim tegwch i'r Gymraeg na Chymru os yw darlledu yn parhau i gael ei reoli gan Lundain, mae'n bryd datganoli darlledu. Yn dilyn y newyddion yma, mae'n debyg y bydd mwy a mwy o bobl yn ymuno â'n hymgyrch i wrthod talu'r ffi drwydded."