Mae Merched y Wawr a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi lansio ymgyrch ar y cyd heddiw (2pm, Dydd Mawrth, 2 Awst) i bwyso ar y banciau i ddarparu gwasanaethau cyflawn Cymraeg.
Nid oes yr un banc yn darparu bancio ar-lein yn Gymraeg, ac mae cau canghennau yn cael effaith mawr ar fynediad at wasanaethau bancio traddodiadol. Mewn digwyddiad ar y maes, mae'r ddau fudiad yn galw ar i unigolion a mudiadau arwyddo addewid i symud arian at fanc sy'n cynnig gwasanaethau cyflawn Cymraeg.
Yn gynharach eleni, bygythiodd banc yr HSBC gau cyfrifon Cymdeithas yr Iaith gan i'r mudiad wrthod llenwi ffurflen Saesneg. Mae'r mudiadau iaith wedi arwyddo'r siec fawr gan addo symud eu holl fusnes bancio i fanc sy'n darparu:
-
gwasanaeth bancio ar-lein cyflawn yn Gymraeg
-
gwasanaethau cownter Cymraeg
-
peiriannau hunan-wasanaeth a chodi arian Cymraeg
-
rhwydwaith eang o ganghennau ledled Cymru
-
hawl cwsmeriaid i gyfathrebu’n ysgrifenedig yn Gymraeg; a
-
llinell ffôn Gymraeg gyflawn
Trafododd Llywydd Merched y Wawr Meryl Davies, Sian Howys o Gymdeithas yr Iaith a Rob Hughes o'r ymgynghoriaeth Lles Cyf, sy'n cynghori banc y NatWest, sut i sicrhau bod banciau yn gwella eu darpariaeth.
Yn siarad yn y digwyddiad, dywedodd Manon Elin, cadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Rydyn ni'n galw ar i bobl a mudiadau ddefnyddio eu grym ariannol er mwyn gwella pethau yn wyneb diffyg gweithredu gan ein gwleidyddion. Does dim un banc yn cynnig gwasanaeth bancio ar-lein ar eu gwefan na thrwy gyfrwng 'ap' yn Gymraeg, er bod symudiad sylweddol tuag at y dull hwnnw o fancio dros bapurau a changhennau. Drwy gau cynifer o'u canghennau, mae'r banciau yn gorfodi eu cwsmeriaid i ddibynnu ar y gwasanaethau bancio ar-lein. Dylen nhw fod yn cynyddu eu darpariaeth Gymraeg ddigidol, yn benodol datblygu system bancio ar-lein yn Gymraeg.
"Mae'r ymgyrch hon yn ymdrech i newid pethau o fewn y system sydd gyda ni. Fodd bynnag, yn y pendraw, deddfu yw'r unig ffordd i sicrhau fod y gwasanaethau Cymraeg yn cael eu diogelu a'u datblygu. Mae hyd yn oed rhai banciau yn cytuno â hyn. Mae'r banciau yn darparu gwasanaethau hanfodol, byddai'n anodd iawn i'r rhan fwyaf ohonom fyw heb gyfrif banc, ond wrth i ragor o ganghennau gau a llyfrau siec ddod i ben, mae'n dod yn anos derbyn gwasanaethau yn Gymraeg.
Meddai Meryl Davies Llywydd Merched y Wawr:
"Mae'r banciau wedi bod yn destun trafod canghennau Merched y Wawr ers rhyw 20 mlynedd bellach. Roedd cynnydd wedi bod, ond bellach efo banciau yn cau yng nghefn gwlad ac wrth i bethau mynd ar y we, mae'r Gymraeg yn diflannu. Hefyd, gan fod lot o ardaloedd heb y we, does dim gwasanaeth bancio o gwbl i rai. Mae angen hwyrach i fwy o fudiadau gymryd yr awenau efo'r materion hyn. Rhaid cofio mewn rhai cyd-destunau os nad yw mudiadau yn fodlon defnyddio'r Saesneg, mae'n amhosib iddyn nhw fancio o gwbl."
Mae Llywodraeth newydd Cymru wedi addo cryfhau deddfwriaeth iaith. Fis diwethaf, cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ddogfen polisi ymgynghorol gan awgrymu y dylai'r ddeddfwriaeth gael ei hymestyn i weddill y sector breifat, gan gynnwys archfarchnadoedd a banciau.