Sir Ddinbych yn cytuno i Gomisiynydd y Gymraeg adolygu eu Cynllun Datblygu Lleol

Mewn cyfarfod â Chymdeithas yr Iaith prynhawn 4ydd o Fehefin, cytunodd Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych i wahodd Comisiynydd y Gymraeg i asesu effaith eu Cynllun Datblygu Lleol ar y Gymraeg.

Mae’r Gymdeithas yn galw arnynt i oedi eu Cynllun Datblygu Lleol tan y bydd TAN20 sy’n mesur effaith cynllunio ar y Gymraeg wedi ei gyhoeddi, hefyd i gyhoeddi adroddiad pwnc ar y Gymraeg ac i greu targedau i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir fesul cymuned.

Dywedodd Sir Ddinbych eu bod yn hyderus fod eu Cynllun Datblygu Lleol i adeiladu 7,500 o dai yn llesol i’r Gymraeg ac y bydd eu cynlluniau’n bodloni’r TAN20 disgwyliedig.

Dywedodd Glyn Jones, Cadeirydd Rhanbarth Clwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Rydym yn falch y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn cael cyfle i adolygu’r cynlluniau.  Serch hynny, mae'r cyngor yn byw ym myd ffantasi. Yn y cyfarfod, methont â chynnig unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r honiad fod y Cynlluniau hyn yn mynd i gryfhau’r Gymraeg. Mae Cyngor Sir Ddinbych yn anwybyddu barn pobl Sir Ddinbych sydd yn erbyn y cynlluniau hyn. Dywedant eu bod yn gwneud cymaint o waith dros y Gymraeg, ond eto, fe ânt ati i danseilio’r gwaith hynny drwy adeiladu miloedd a miloedd o dai. Dyna un o'r rhesymau pam rydym yn galw ar y Gweinidog Tai ac Adfywio Carl Sargeant AC, i gyhoeddi TAN20 a fydd yn ystyriol i’r Gymraeg a’n cymunedau."

 

Mae Sir Ddinbych hefyd wedi dweud wrth y Gymdeithas y byddant yn sefydlu gweithgor i wneud audit ieithyddol o sefyllfa’r Gymraeg.