‘Steddfod, Amser Parti?

Mae gan Gymdeithas yr Iaith ddigonedd o gigs a digwyddiadau eleni ar faes yr Eisteddfod i’ch diddanu chi. “Parti” fydd prif thema’r wythnos: byddwn ni’n cynnal parti drwy’r wythnos ar ein huned, a bydd y parti mwyaf erioed ar faes yr Eisteddfod ar ddiwedd yr wythnos. Gobeithio y gallwn ni i gyd ddathlu, yn ystod yr wythnos, bod gweithredoedd mawr ar y gweill gan Gyngor Sir Gâr a Llywodraeth Cymru - ond mewn bwced o rew mae’r champagne ar hyn o bryd!

Gallwch weld yr holl fanylion ar cymdeithas.org/steddfod

Hawliau yn yr oes ddigidol: democratiaeth a chreadigrwydd

Cyfarfod Cyhoeddus Cymdeithas yr Iaith

3:30pm, Dydd Llun, Awst 4ydd, Pabell y Cymdeithasau 2

Siaradwyr: Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Jim Killock (ORG - Grŵp Hawliau Agored), Robin Owain (Wikimedia), Sian Gale (BECTU), Carl Morris (Cymdeithas)

Radio Cymru > Teledu Cymraeg > *llenwch y bwlch*

https://www.facebook.com/events/1439031783040674/

Sefydlu Hawliau Clir i’r Gymraeg

Lansio Her i'r Safonau Iaith

Uned Cymdeithas yr Iaith, (511-512)

Dydd Mawrth, 2:30pm

Siaradwyr: Dathlu’r Gymraeg, UCAC, Simon Thomas AC ac eraill

Trefn Cynllunio er budd ein Cymunedau

Cyfarfod Cyhoeddus Cymdeithas yr Iaith

2pm, Dydd Mercher, Awst 6ed

Uned Oxfam Cymru (1220 - 1221)

Siaradwyr: Toni Schiavone, Simon Thomas AC, Suzy Davies AC ac eraill

Parti i ddathlu gyda Chyngor Sir Gâr

Dydd Gwener, 2pm, Awst 8fed

Uned Cyngor Sir Gâr

Dathlu fod Cyngor Sir Gâr am roi arweiniad i Gymru gyda strategaeth iaith flaengar

#LlygadBarcud

Andrew Teilo, Dewi Pws, Iola Wyn, Cyng. Cefin Campell (Plaid Cymru), Cyng. Calum Higgins (Llafur), Bromas, Y Banditos, Castro - band, Kariad y Clown

https://www.facebook.com/events/485253354951786

Yn ogystal â chynnal ein gigs yng nghanol y dref er mwyn sicrhau bod busnesau a phobl leol yn cael rhagor o fudd o’r ŵyl, byddwn ni’n cynnal stondin yng nghanol y dref ar rai dyddiau hefyd. Am ragor o wybodaeth am wirfoddoli yn ein gigs, ar y maes neu yn y dref - cysylltwch â bethan@cymdeithas.org / 01970 624501.

Rali Flynyddol – Dydd Sadwrn, Hydref 4ydd 2014, Pwllheli

Na i Or-ddatblygu: Cynllunio er budd ein cymunedau

Hoffwn eich gwahodd i’n Rali Flynyddol a Chyfarfod Cyffredinol ar Ddydd Sadwrn, Hydref 4ydd 2014 yn nhafarn y Penlan Fawr, Stryd Penlan, Pwllheli LL53 5DE. Bydd y Cyfarfod Cyffredinol am 10.30 y bore a’r rali am 2 y prynhawn - croeso i bawb!

https://www.facebook.com/events/485253354951786

I’r gad,

Robin Farrar

Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

robin@cymdeithas.org post@cymdeithas.org  

@cymdeithas

01970 624501