Bu dros ugain o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn protestio dros Ddeddf Iaith ar strydoedd Caernarfon dydd Sadwrn. Dechreuodd y brotest am 12 o’r gloch ar Stryd Llyn ac fe orchuddiwyd nifer o siopau cadwyn y dre gyda sticeri yn galw am Ddeddf Iaith a’r neges ‘Ble Mae’r Gymraeg?'.
Cafwyd trafodaeth danllyd gyda rheolwr ambell i siop gan gynnwys rheolwr W H Smith.Cychwynodd yr ymgyrch hon yn y FFlint ychydig dros wythnos yn ol. Bwriedir cynnal protestiadau tebyg mewn mannau megis Bangor, Aberystwyth, Aberteifi, Caerfyrddin, Llanelli a Chaerdydd yn wythnosol rhwng nawr a'r Nadolig.Bwriad yr ymgyrch ydy pwysleisio pa mor hollol aneffeithiol ydy Deddf iaith 1993 tra'n delio gyda'r sector breifat, ac yn ogystal rhoi Deddf Iath yn ol ar yr agenda wleidyddol.Dywedodd Angharad Tomos oedd yn arwain yr ymgyrch yng Nghaernarfon dydd Sadwrn;“Gan fod dros ddeng mlynedd wedi mynd heibio ers pasio’r ddeddf iaith ddiwethaf a bod yr Aelod Seneddol Hywel Williams wrthi yn llunio drafft fesur o Ddeddf Iaith newydd daeth yn hen bryd i ni godi proffeil yr ymgyrch hon. Bydd llawer mwy o weithredu dros Ddeddf Iaith yn y dyfodol.”Lluniau o'r Brotest ar gael yma! Pwyswch ar "Codi Sticeri yng Nghaernarfon, Hydref 2004" ar y bar dewis.