Neithiwr (nos Sul/bore Lun 17/10/04 –18/10/04), yng Nghaerdydd, targedodd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg sawl cwmni preifat – (banciau, archfarchnadoedd, arwerthwyr tai, siopau cadwyn ayb) – gan orchuddio eu ffenestri â sticeri gludiog, sydd yn gofyn ‘Ble mae'r Gymraeg?'
Digwyddodd y gweithredu yn ardaloedd Heol Albany, Yr Eglwys Newydd a Threganna. Ymysg y cwmniau a dargedwyd yr oedd Banc yr Alban, Sommerfield, Fferyllwyr Lloyds, Iceland, Boots, Peacocks a Tescos.Gwnaed hyn er mwyn tynnu sylw at y ffaith nad yw'r Ddeddf Iaith bresennol yn cyffwrdd â'r sector breifat ac felly yn rhydd i gynnig y mwyafrif o'u gwasanaethau trwy gyfrwng y Saesneg yn unig. Mae Senedd Cymdeithas yr Iaith yn cymryd cyfrifoldeb am y weithred.Daw'r weithred yma ar ôl gweithredoedd tebyg yn Fflint, Caernarfon ac Aberyswtyth dros yr wythnosau diwethaf. Mae'n rhan o ymgyrch bresennol Cymdeithas yr Iaith o godi ymwybyddiaeth o'r angen am Ddeddf Iaith Newydd. Nid hon fydd y weithred olaf yn y gyfres, mi fydd mwy o weithrediadau yn digwydd mewn trefi dros Gymru yn yr wythnos nesaf.Meddai Rhys Llwyd, Cadeirydd ymgyrch Deddf Iaith Newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
Penderfynodd Cymdeithas yr Iaith i gychwyn ar gyfnod o ymgyrchu gweithredol er mwyn ail-godi yr angen am Ddeddf Iaith Newydd. Dro ar ôl tro, fe welir fod cwmniau a sefydliadau yn parhau i wrthod cynnig y mwyafrif o'u gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, gan sathru ar hawliau siaradwyr Cymraeg. Ni fydd hyn yn newid hyd nes ceir Deddf Iaith Newydd.
Rhwng nawr a'r Nadolig, bydd Cymdeithas yr Iaith yn mynd ati yn gyson i dargedu llu o gwmniau, mewn trefi trwy Gymru gyfan, er mwyn pwysleisio gwendidau sylfaenol Deddf Iaith 1993.Ychwanegodd Rhys Llwyd:
Bellach, mae dros ddegawd ers pasio'r Ddeddf Iaith bresennol. O ganlyniad, mae nawr yn adeg briodol i ddechrau ystyried yr angen i ddiwygio a chryfhau'r ddedfwriaeth. Yn wir, o ystyried y modd y mae preifateiddo, ynghyd â'r twf yn nylanwad technoleg, yn trawsneid y modd y caiff gwasanaethau eu cynnig, mae angen brys i wneud hyn. Os na fyddwn yn wynbeu'r her, bydd siaradwyr Cymraeg yn colli cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg fel rhan o'u bywydau bob dydd.
Ychwanegodd Hedd Gwynfor, Is-gadeirydd Cyfathrebu'r Gymdeithas:
Trwy ein gweithred heno, yn dilyn gweithredu tebyg yn Y Fflint, Caernarfon ac Aberystwyth dros yr wythnosau diwethaf, cyhoeddwn fod cyfnod yr hen Ddeddf Iaith wedi dod i ben. Mae Cymru wedi newid yn llwyr ers pasio'r hen Ddeddf ym 1993, ac y mae Deddf Iaith Newydd yn ôl mewn difri ar yr agenda gwleidyddol. Gallwn gyhoeddi ein bod yn cychwyn ar bedwar mis o ymgynghori tu fewn a thu allan i'r Gymdeithas ar gynnwys Deddf Iaith newydd, a byddwn yn croesawu ymateb o bob cwr.Yn benllanw i'r ymgyrch newydd hon, byddwn yn cynnal Fforwm Genedlaethol ar Ddeddf Iaith a gynhelir yn yr Hen Goleg, Aberystwyth ar Ddydd Sadwrn Mawrth 12fed 2005 i gyflwyno'n gweledigaeth o Ddeddf Iaith newydd. Ein nod yw darbwyllo Bwrdd yr Iaith i argymell fod y Cynulliad yn mynnu deddf newydd o'r fath gan San Steffan. Y mae Hywel Williams A.S. wedi cytuno i annerch y fforwm, ac y mae Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith - Meirion Prys Jones - wedi cytuno i ymateb. Wrth fod y bore'n gwawrio yn Aberystwyth a'r galwad i'w weld ym mhob man am ddefnydd llawn o'r Gymraeg, felly hefyd y mae cyfnod newydd wedi gwawrio yn y frwydr dros yr iaith