Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu Strategaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar gyfer ehangu'r defnydd o'r Gymraeg yn y sector breifat yn hallt, ac wedi galw'r ddogfen a gyhoeddir heddiw yn 'siom enbyd.' Mae'r strategaeth yn amlinellu cynlluniau'r Bwrdd i geisio sicrhau bod mwy o gwmniau preifat yn cynnig gwasanaethau i'w cwsmeriaid trwy gyfrwng y Gymraeg trwy ddefnyddio perswad yn unig.
Er fod y Bwrdd yn cydnabod fod angen i ddeddfwriaeth gael ei ehangu ym maes y cyfleustodau, maent yn gwrthod y syniad mai Deddf Iaith Newydd yw'r ffordd ymlaen yn y sector breifat yn ei chyfanrwydd. Mae hyn yn gwbl groes i’r hyn y mae'r Gymdeithas wedi ei brofi yn ystod y degawd diwethaf yn eu hymgyrchoedd hwy.Mae ymgyrchoedd a thrafodaethau'r Gymdeithas gyda Orange er engrhaifft, yn tanlinellu pa mor aneffeithiol yw perswad Bwrdd yr Iaith. Mewn datganiad gobeithiol yn 2000 dywedodd y Bwrdd“Mae'r cwmni ffonau symudol, Orange, heddiw wedi cadarnhau fod y Gymraeg ar ben y rhestr o'r ieithoedd mae'n eu hystyried yn allweddol ar gyfer rhaglen y cwmni o ddatblygu cyfathrebu amlieithog yn y DU.”Bedair mlynedd yn ddiweddarach, dyma oedd ymateb llefarydd Orange i ymgyrch gan y Gymdeithas,“There is no obligation on Orange or any company operating in Wales to provide bilingual services.”Mae Orange yn parhau i wrthod cynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, ac yr un yw’r stori gyda Coca Cola ac Undeb Rygbi Cymru, dau engrhaifft arall oedd yn cael eu defnyddio gan y Bwrdd i ddangos cryfder eu perswad.Dywedodd Catrin Dafydd, cadeirydd ymgych Deddf Iaith Newydd y Gymdeithas:"Mae hyn yn siom enbyd ac yn dangos amharodrwydd ac anallu'r Bwrdd i wynebu'r sefyllfa fel ag y mae. Fel y dengys eu methiannau yn y gorffennol gyda chwmiau amlwladol, cyfoethog fel Orange a Coca Cola, nid yw perswad y Bwrdd yn ddigon i sicrhau bod y cwmniau yma yn darparu nwyddau a gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.""Yr unig ffordd o sicrhau gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg a hawliau ieithyddol i bobl Cymru yw trwy ddeddfwriaeth gadarn a fydd yn gosod gorfodaeth ar y cwmniau yma. Ymateb y cwmniau dro ar ol tro yw na fyddant yn darparu gwasanethau trwy gyfrwng y Gymraeg oherwydd nad oes rheidrwydd cyfreithiol arnynt. Trwy Deddf Iaith Newydd gynhwysfawr a chryf yn unig y mae gosod y rheidrwydd yma.""Mae'n wirioneddol anhygoel fod y Bwrdd o blaid ehangu deddfwriaeth dros y cyfleustodau megis dwr a thrydan, ond yn mynnu nad yw hyn yn addas ar gyfer siopau megis Tesco, sydd i bob pwrpas a'r un fath o fonopoli ar gwsmeriaid a'r cwmniau dwr.""Mae'n amlwg nad yw'r sefyllfa yn deg ar siaradwyr Cymraeg ar hyn o bryd. Cynhaliwyd arolwg yn ddiweddar gan y Gymdeithas ar barodrwydd cwmniau trydan i wasanaethu trwy gyfrwng y Gymraeg. Dau gwmni allan o bedwar ar ddeg sydd yn fodlon neu yn medru gwneud hynny, a dau gwmni yn unig a atebodd y llythyr, un ohonynt yn Saesneg, yn ein cynghori i gysylltu eto trwy gyfrwng yr iaith honno.""Pam ddyliai cwsmeriaid gael dewis culach oherwydd eu bod am weithredu trwy gyfrwng y Gymraeg? Hyd nes y cawn ni Ddeddf Iaith Newydd i orfodi cwmniau i wasanaethu trwy gyfrwng y Gymraeg, bydd hawliau pobl Cymru yn cael eu tramgwyddo. Mae'n warthus fod y Bwrdd yn mynnu anwybyddu negeseuon clir hanes yn y maes yma."