Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu fel cam bach ymlaen y camau nesaf o ran cyflawni strategaeth iaith y Llywodraeth heddiw.
Dywedodd Osian Rhys, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
"Rydyn ni'n croesawu cyhoeddiad heddiw fel cam bach ymlaen; yn y Llywodraeth y mae gweithredu ein strategaeth iaith genedlaethol. Ond mae ffordd bell i fynd nes ein bod ni'n gweithredu i'r un graddau â Gwlad y Basg - byddai hynny'n golygu buddsoddi £180m y flwyddyn yn nyfodol y Gymraeg: dyna sydd ei angen."
"Yn ogystal, mae angen statws uwch i'r iaith o fewn y gwasanaeth sifil. Dim ond is-adran sydd ar hyn o bryd - mae angen cyfarwyddiaeth lawn fel sydd gan feysydd polisi eraill. Fe gawson ni gyfarfod gyda'r Prif Weinidog yn ddiweddar ac fe fuon ni'n pwyso arno i wneud hynny."
Ychwanegodd:
"Mae'n destun siom i ni nad yw'r Llywodraeth wedi cyhoeddi amserlen ar gyfer ymestyn y Safonau Iaith i bob sector heddiw. Wyth mlynedd ers pasio Mesur y Gymraeg, rydyn ni'n dal i ddisgwyl am hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg wrth ymwneud â chwmnïau trên, bws, ynni, ffôn symudol a chymdeithasau tai. Mae'n hen bryd iddyn nhw weithredu'r pwerau sydd ganddyn nhw - fe
fyddai'r Safonau'n cynyddu defnydd o'r Gymraeg ym mywydau bob dydd pobl"