Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryder ynghylch y diffyg sylw a roddir i’r Gymraeg yn strategaeth newydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru, y corff sy’n cynllunio’r gweithlu iechyd yng Nghymru ac sy’n gyfrifol am gomisiynu addysg a hyfforddiant.
Dim ond un cyfeiriad sydd at y Gymraeg yn y strategaeth, a dyw hi ddim yn thema na blaenoriaeth a nodir yn y ddogfen. Ym marn y Gymdeithas, mae’r strategaeth felly yn anwybyddu pwysigrwydd y Gymraeg a’r ‘cynnig rhagweithiol’ mewn gofal gan ddiystyru’r angen i greu gweithlu dwyieithog.
Yn ei hymateb i’r ymgynghoriad, mae’r Gymdeithas yn codi pryderon am sawl agwedd, gan gynnwys comisiynu corff y tu allan i Gymru i lunio’r strategaeth, diffyg sylw at gyfrifoldebau AaGIC o ran y Gymraeg wrth gomisiynu’r gweithlu iechyd yng Nghymru, a diffyg sylw at gyd-destun cyfreithiol, polisi ac ymchwil y Gymraeg o fewn y ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Dywedodd Gwerfyl Roberts, Cadeirydd Is-grŵp Iechyd y Gymdeithas:
“Mae dirfawr angen gweithlu wedi’i gynllunio mewn modd strategol ar sail anghenion ieithyddol y boblogaeth, gyda sgiliau Cymraeg yn cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi fel sgiliau proffesiynol. Dim ond drwy gynllunio’r gweithlu mewn modd strategol y gellir mynd ati i weithredu’r ‘cynnig rhagweithiol’ yn llwyddiannus.
“O ystyried uchelgais y strategaeth i ddatblygu gweithlu a fydd yn diwallu anghenion pobl Cymru, mae'n rhaid i'r Gymraeg gael sylw blaenllaw er mwyn sicrhau cyflenwad digonol o siaradwyr Cymraeg. Am hynny, wrth gomisiynu’r addysg, mae angen gosod targedau clir ar gyfer recriwtio nifer digonol o siaradwyr Cymraeg ar gyfer gweithlu'r dyfodol; a gwella sgiliau Cymraeg a hyder y gweithlu presennol.
“Dyma golli cyfle euraid i gynllunio’r gweithlu iechyd a gofal mewn modd a fyddai’n gwella’r ddarpariaeth Gymraeg o fewn y gwasanaeth iechyd yn sylweddol. Mae gofal iechyd drwy ail iaith yn ofal eilradd.”
Mae’r Gymdeithas wedi cyflwyno cwyn ffurfiol i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol am ddiffygion y strategaeth.