Sut anghofiodd “Mr Anghofus” son wrth etholwyr Sir Gar am fwriad i gau 17 ysgol?

Mr AnghofusMae Cymdeithas yr Iaith wedi galw’r Aelod Cabinet dros addysg yn Sir Gaerfyrddin, Cyng. Ieuan Jones, yn 'Mr Anghofus' am iddo anghofio, yn gyfleus iawn, son wrth yr etholwyr yn yr Etholiad y mis diwethaf am y cynlluniau a ddadlennwyd heddiw i gael blwyddyn fawr o gau ysgolion pentrefol yn y sir.

Caiff dogfen anferth o 17,000 o eiriau ei chyflwyno i Fwrdd Gweithredol y Cyngor fore Llun yn cynnig adolygu ac ymgynghori yn 2008/9 am safleoedd ysgol mewn 11 pentre’ Cymraeg ac i gychwyn trafodaethau mewn chwech arall. Mae hyn yn dilyn blwyddyn dawel cyn yr etholiad pan lwyddodd y Cyngor i gynnal ymgynghori o’r fath mewn 2 ysgol yn unig.Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal protest tu allan i’r cyfarfod yn Neuadd y Sir Caerfyrddin fore Llun am 9am ac yn amlygu’r twyll ar yr etholwyr trwy bresenoldeb y cymeriadau 'Mr Men' enwog sef 'Mr Anghofus' (Cyng. Jones) a 'Miss Bos Bach' (neu “Little Miss Bossy” arweinydd y cyngor Meryl Gravell).Esboniodd cadeirydd y Gymdeithas yn Sir Gar, Sioned Elin:"Ni yw’n bosibl fod dogfen 17,000 o eiriau wedi ymddangos yn sydyn o unman. Mae’n amlwg ei fod ar gael cyn yr etholiad ond anghofiodd Mr Anghofus son wrth yr etholwyr fod y Glymblaid Annibynnol/Llafur am gyhoeddi rhyfel yn erbyn hyd at 17 o ysgolion pentrefol Cymraeg yn Sir Gar wedi blwyddyn gyfleus o dawel cyn yr etholiad.""Petaent wedi dweud, a cholli 4 sedd eto, ni fuasent wedi gallu gorfodi polisi o’r fath ar y sir. Heriwn y Bwrdd Gweithredol i drosglwyddo’r ymosodiad hwn ar ysgolion pentre’ i’w drafod yn y Cyngor llawn fel bod modd gwneud gwelliannau.""Gwarthus yw’r penderfyniad yn y cynigion i geisio cael gwared a’r ddwy ysgol ffederal yn y sir, gan ddangos eu hawydd dogmataidd i wrthod unrhyw opsiwn heblaw am gau ysgolion a chreu Ysgolion Ardal ganolog. Maen nhw am gau Ysgol 3-safle 'Y Fro' yn gyfan gwbl a gwthio holl blant Ysgol Carreg Hirfaen ar un safle trwy osod portocabin crand i mewn. Roedden nhw wedi addo trafodaethau manwl ynghylch fformiwla cyllido ffederasiynau ond mae’n amlwg na allent drafferthu unwaith fod yr etholiad drosodd gan fod cau yn haws.""Bydd Cymdeithas yr Iaith yn sefyll gyda phob cymuned sydd am ymladd yn erbyn y cynigion hyn. Ni chaiff y Cyngor ei ffordd yn hawdd, a bydd pobl yn cofio twyll sinigaidd cadw’r newyddion yn ôl tan ar ôl yr Etholiad."