Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Swyddogion Addysg Sir Gâr o ddefnyddio'r un hen driciau wrth geisio rhwystro trafodaeth ar draws y sir ynglyn a'i Strategaeth Moderneddio Addysg a allai arwan at gau hyd at 40 ysgol bentrefol Gymraeg yn y Sir.
Mae'r ymgynghori ar ddrafft 'Cynllun Addysg Sengl' y sir yn dod i ben yr wythnos hon - mae'r ddwy adran gyntaf yn gyffredinol iawn yn sôn am nodau haniaethol tra bod y drydedd adran (adran 3.4) yn ail ddatgan y Strategaeth Moderneddio Addysg amhoblogaidd a strategaethau eraill. Mae'r swyddogion wedi dosbarthu i'r Llywodraethwyr a chyrff eraill ffurflen ateb yn gofyn am ymateb i'r "Cwestiynau Allweddol" sydd yn gyfyngedig i'r ddwy adran gyffreinol gyntaf a heb wahodd unrhyw ymateb o gwbl i'r Strategaeth Moderneddio Addysg.Meddai Llefarydd Addysg y Gymdeithas, Ffred Ffransis " Drwy gynnwys y Strategaeth Moderneddio Addysg mewn adran o'r Cynllun Addysg Sengl - heb dynnu sylw ato - mae'r swyddogion yn amlwg yn gobeithio honni yn nes ymlaen iddo fod allan am ymgynghoriad drwy'r sir. Unwaith eto maent yn defnyddio'r un hen driciau yn yr un modd a maent yn honni fod eu cyfeiriadau at 'llai o lefydd ysgolion' yn y Cynllun Addysg Ysgolion yn 2001 yn rhoi'r hawl iddynt ddileu dwsinau o ysgolion pentrefol Cymraeg."Ychwangeodd "Maent wedi gwahodd ymatebion i'r ddwy adran gyntaf yn unig o'r Cynllun Addysg Sengl sy'n cynnwys datganiadau haniaethol ynglyn a gwerthoedd, nodau, cyd-ddyheadau a gweithareddau allweddol. Does dim cyswllt sylfaenol rhwng y gwerthoedd honedig hyn a'r MEP a gaiff ei ail-adrodd yn Adran 3.4. I'r gwrthwyneb, rydym yn dadlau yn ein hymateb i'r Cygor y bydd y Strategaeth Moderneddio Addysg yn tanseilio'r union werthoedd o gynhwysiant cymdeithasol, addysg gymunedol a dwyieithrwydd drwy ganoli addysg a thynnu'r ysgolion allan o'u cymunedau."