Swyddogion Llywodraeth Cymru i gwrdd â'r Saith Seren

Mae ymgyrchwyr iaith wedi dweud eu bod yn gobeithio y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo canolfan Gymraeg y Saith Seren gyda'u costau rhent, cyn i weision sifil gwrdd â'r rheolwyr heddiw.   

Meddai Cadeirydd rhanbarth Cymdeithas yr Iaith yn yr ardal Aled Powell, a ofynnodd I'r Llywodraeth gynorthwyo'r fenter gydweithredol: "Rydyn ni'n gobeithio'n fawr y gall y Llywodraeth gynorthwyo'r prosiect hon sy'n enghraifft wych o fenter o'r gwaelod i fyny sy'n llesol i'r Gymraeg. Un ffordd amlwg y gallen nhw helpu yw trosglwyddo'r adeilad o'r gymdeithas tai leol i fwrdd y Saith Seren. Mae costau rhent uchel yn broblem, ac nid yw'n gwneud synnwyr bod y gymdeithas tai, sydd i fod i weithredu er lles y cyhoedd, yn mynnu rhent uchel. Dylai'r Llywodraeth allu helpu'r Saith Seren i brynu'r adeilad."