Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar Gyngor Bro Morgannwg i ymddiheuro am ei ymateb ‘rhagfarnllyd’ i ymgynghoriad am ddarparu gwasanaethau Cymraeg.
Mae ymateb y Cyngor i’r ymchwiliad, sy’n cael ei gynnal gan Gomisiynydd y Gymraeg, am y safonau iaith arfaethedig - dyletswyddau ar gyrff a chwmnïau i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg a fydd yn disodli cynlluniau iaith - yn gwneud nifer o honiadau megis: “Byddai’n anodd cyhoeddi gwahoddiadau i dendr yn Gymraeg a byddai’n risg sylweddol o ystyried y manylion technegol sydd mewn dogfennau o’r fath a’r posibilrwydd na fyddai’r cyfieithiad yn union yr un fath ag ystyr y Saesneg … Pe bai tendrau yn cael eu cyflwyno yn Gymraeg … byddai cyfrinachedd yn cael ei dorri.”
Mewn llythyr yn galw ar i’r cyngor gyflwyno ymateb newydd nad yw’n cynnwys “honiadau di-sail a negyddol eu hagwedd tuag at y Gymraeg”, medd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Credwn fod yr ymateb nid yn unig yn amlygu agwedd ofnadwy o hen ffasiwn a negyddol tuag at y Gymraeg, ond hefyd yn amhroffesiynol ac yn ffeithiol anghywir. Erfyniwn ar y Cyngor i ymddiheuro’n gyhoeddus am yr ymateb a chyflwyno ymateb newydd yn lle, sydd nid yn unig yn ffeithiol gywir, ond hefyd yn dangos dyhead dros dyfu’r Gymraeg yn y sir. Mae penderfyniad y Cyngor i ymateb yn y ffordd hon yn peryglu amddifadu pobl o wasanaethau Cymraeg, ac felly yn mynd i beri gofid i nifer o bobl na fydd yn derbyn gwasanaethau Cymraeg, nac ychwaith, elwa o weld, clywed neu ddefnyddio’r Gymraeg yn y ffordd a ddymunasent.”
Mae’r grŵp pwyso wedi galw ar bobl i ymateb i ymchwiliad Comisiynydd y Gymraeg erbyn y dyddiad cau ar Ebrill 18 er mwyn sicrhau hawliau clir i bobl ddefnyddio’r Gymraeg. Gellir gwneud hynny drwy ddefnyddio’r templed ar ei gwefan - www.cymdeithas.org/safonau/. Ychwanegodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Does dim lle i’r math yma o agweddau rhagfarnllyd ac anwybodus yn y Gymru gyfoes. Dylai’r Cyngor ymddiheuro’n syth a chyflwyno ymateb gwahanol. Ond, yn anffodus, realiti’r ymgynghoriad yma yw bod cynghorau, sefydliadau a chwmnïau yn gweithio’n galed i atal ein dinasyddion rhag byw yn Gymraeg, rhag sicrhau bod ein pobl, yn enwedig ein plant, yn cael mwynhau ein hiaith genedlaethol unigryw. Rwy’n apelio ar bawb sy’n caru ac yn cefnogi’r Gymraeg i atal cyrff rhagfarnllyd fel hyn rhag ennill y dydd ac ymateb i’r ymgynghoriad er mwyn gofyn am wasanaethau Cymraeg gwell - drwy fynd i’n gwefan, www.cymdeithas.org/safonau.”