Mae mudiad iaith wedi beirniadu Trago Mills yn hallt, wedi i gopi o lythyr oddi wrth y cwmni am ei siop newydd ym Merthyr, sy'n llawn sylwadau gwrth-Gymraeg, ddod i'r amlwg.
Er gwaethaf ymrwymiad yn y llythyr i osod rhai arwyddion dwyieithog ar safle'r siop newydd ym Merthyr Tudful, ar hyn o bryd, arwyddion uniaith Saesneg sydd yn y siop.
Dywedodd Wyn Williams, Cadeirydd Rhanbarth Morgannwg-Gwent Cymdeithas yr Iaith:
"Mae sylwadau gwrth-Gymraeg y cwmni'n rhai sarhaus iawn. Maen nhw'n dangos amarch tuag at y wlad y maen nhw'n masnachu ynddi â thuag at ein hiaith genedlaethol unigryw. Mae'r sylwadau hefyd yn dangos agweddau ymerodraethol a ddylai fod wedi'u claddu amser maith yn ôl. Mae eu safbwynt am addysg yn hollol anwybodus – mae arbenigwyr yn glir bod addysg cyfrwng Cymraeg yn arwain at ruglder yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae degau o filoedd o siaradwyr Cymraeg yn yr ardal mae'r siop yn ei gwasanaethu, ac mae'n sarhaus iddyn nhw.
"Ond yn fwy na dim, mae hyn yn dangos unwaith eto bod angen deddfwriaeth gref er mwyn sicrhau defnydd o'r Gymraeg yn y sector preifat. Welwn ni ddim ffyniant i'r iaith yn y sector preifat os ydyn ni'n dibynnu ar 'ewyllys da' cwmnïau fel hyn. Yn wir, mae cynlluniau Llywodraeth Llafur Cymru i wanhau'r ddeddfwriaeth iaith yn fêl ar fysedd busnesau gwrth-Gymraeg. Mae'n flin gennym orfod dweud, ond, ar hyn o bryd, ein Llywodraeth ni yw cyfaill gorau y cwmnïau mawrion hyn."