Mae'r mudiad iaith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y cyd ac Ymgyrch Achub Penrhos, wedi gyrru llythyr at y Gweinidog Cynllunio heddiw (Dydd Llun, Tachwedd 18) yn gofyn iddo alw cais cynllunio tai gwyliau Land & Lakes i fewn.
Penderfynodd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ynys Môn i ganiatáu cais cynllunio dadleuol Land & Lakes mewn cyfarfod ar Dachwedd 6ed, er bod y pwyllgor wedi pleidleisio yn erbyn y cais mis ynghynt, oherwydd byddai caniatau datblygiad o'r math yn gorddatblygu cefn gwlad, a caniatau datblygiad sylweddol mewn ardal o harwddwch naturiol eithriadol.
Dywedodd Osian Jones, Swyddog Maes y Gogledd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
“Mae llawer iawn o gwestiynau heb eu hateb am y cais cynllunio dadleuol hwn. Yn gyntaf rydym yn synnu sut y gall Cyngor Sir, sydd yn datgan eu bod o ddifrif am ddiogelu'r Gymraeg fel iaith hyfyw, yn gallu caniatáu i ddatblygiad fel hwn fynd yn ei flaen, heb fynnu bod adroddiad asesiad iaith annibynnol wedi ei gwblhau.”
“Rydym yn bryderus iawn bod Cyngor Sir Ynys Môn yn gallu gweithredu yn y math fodd, yn arbennig o gofio canlyniadau siomedig y cyfrifiad yn y sir, lle gwelwyd cwymp sylweddol yn y canran o siaradwyr Cymraeg ar yr ynys.”
“Mae'n dangos diffyg dealltwriaeth sylfaenol gan y cynghorwyr hynny sydd yn aelodau o'r pwyllgor cynllunio am faterion socioieithyddol, a sut bod rhaid cynllunio'n fanwl er mwyn creu economi sy’n diogelu'r Gymraeg ac yn creu economi syn ateb gofynion lleol, yn hytrach na llenwi pocedi cwmnïau mawr o du allan i Gymru.”
Ychwanegodd Hilary Patterson-Jones o Ymgyrch Achub Penrhos: “Wrth ganiatáu cais cynllunio i Land & Lakes, mae Cyngor Sir Ynys Mon wedi torri 11 o bolisiau cynllunio, sefyllfa sy’n anghrediniol o gofio problemau diweddar y Cyngor. Mae polisïau cynllunio cenedlaethol wedi eu gosod am resymau pendant, wedi ymgynghoriad eang. Ni fedrai gredu na welodd aelodau'r pwyllgor cynllunio'r problemau ar cwestiynau difrifol fydd yn sicr o godi wrth ymchwilio ymhellach i'r mater.”
“Mae caniatáu i ddatblygiad mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol yn torri un o gonglfeini ein system gynllunio sef bod rhaid i'r drefn gynllunio ddiogelu ein hamgylchedd naturiol. Mae caniatáu datblygiad Land & Lakes yn mynd yn hollol groes i hynny.”
Ychwanegodd: “Dyna paham ein bod yn galw ar i Carl Sargeant, y gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros gynllunio yn Llywodraeth Cymru i alw'r penderfyniad i mewn am ymchwiliad, gan fod penderfyniad Cyngor Sir Ynys Môn yn dwyn anfri ar bolisïau cynllunio cenedlaethol Llywodraeth Cymru.”