Tarfu ar agoriad siop Iceland yn y Rhyl o achos diffyg Cymraeg

Mae grŵp o ymgyrchwyr wedi tarfu ar agoriad swyddogol siop newydd Iceland yn y Rhyl heddiw (dydd Mawrth, 31ain Gorffennaf) gan gwyno am y diffyg darpariaeth Gymraeg.  

Ar fore agoriad swyddogol y siop newydd, mae pymtheg o aelodau Cymdeithas yr Iaith ynghyd â'r Cynghorydd lleol Arwel Roberts wedi gwrthdystio tu allan a thu fewn i'r siop gan gwyno i reolwyr am y diffyg arwyddion Cymraeg. 

Dyweda David Williams, Cadeirydd Rhanbarth Glyndŵr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: 

“Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod mewn parti rywbryd pryd y mae'r teulu wedi anghofio dod ag anrhegion i wahoddedigion. Wel, dyna sy gyda ni heddiw - mae Iceland wedi eich gwahodd chi i gyd draw, ond wedi anghofio dod ag arwyddion Cymraeg i ni i ddangos parch at Gymru. Rydym yn disgwyl yn eiddgar i gael gweld arwyddion a gwasanaeth Cymraeg. 

"Un enghraifft o nifer yw Iceland - dydi dibynnu ar “ewyllys da” cwmniau mawrion sydd yn blaenoriaethu gwneud elw dros bopeth arall ddim yn ddull o sicrhau tegwch i’r Gymraeg. Mae angen hawliau iaith glir arnom a rhaid i’r safonau iaith cael eu hymestyn i’r sector breifat!”  

Yn ardal y Rhyl, bu pencadlys cyntaf y cwmni yn ôl yn y 1970au.  Ychwanegodd Mr Williams: 

"Mae un o'r ysgolion cynradd Cymraeg mwyaf yng Nghymru o fewn chwarter milltir i'r siop newydd ac mae deddfwriaeth wedi dod i roi statws i'r iaith Gymraeg mewn bywyd cyhoeddus, er bod y llywodraeth bresennol yn anwybyddu'r sector preifat gan obeithio y bydd cwmnïau preifat yn "dangos ewyllys da". 

"Gofynnwn felly i Iceland ddangos nad cwmni arall o du allan ydyw sydd am ymelwa'n unig ar bobl leol, ond cwmni sy'n falch o'i wreiddiau. Galwn ar Iceland i wneud defnydd llawn o'r Gymraeg yn ei siop newydd - gan gychwyn gyda'r arwyddion, ond yn symud ymlaen at ddefnyddio'r ddwy iaith mewn trafodion bob dydd a chynnig gwasanaeth Cymraeg i gwsmeriaid.