Dros nos cafodd 25 o gwmniau preifat yn Aberystwyth megis Halifax, Millets, Dorothy Perkins, Burtons, Abbey a Woolworths eu targedu am yr eildro gan 30 aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, pan orchuddiwyd eu ffenestri â sticeri gludiog, sydd yn gofyn ‘Ble mae’r Gymraeg?’
Gwnaed hyn er mwyn tynnu sylw at y ffaith nad yw’r Ddeddf Iaith bresennol yn cyffwrdd â’r sector breifat ac felly bod cwmniau megis yr uchod, yn rhydd i gynnig y mwyafrif o’u gwasanaethau trwy gyfrwng y Saesneg yn unig. Gwnaed hyn hefyd er mwyn cadw'r pwysau ar y siopau yn Aberystwyth i gynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r weithred yma yn dilyn llu o weithredoedd tebyg yn Fflint, Caernarfon, Bangor, Aberteifi, Caerfyrddin, Caerdydd ac Aberystwyth lle cafodd naw eu harestio. Mae Senedd Cymdeithas yr Iaith yn cymeryd cyfrifoldeb am y weithred.Meddai Huw Lewis, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:“Penderfynodd Cymdeithas yr Iaith i ail gychwyn ar gyfnod o ymgyrchu gweithredol er mwyn rhoi’r angen am Ddeddf Iaith Newydd yn ôl ar yr agenda wleidyddol. Dro ar ôl tro, fe welir fod cwmniau a sefydliadau yn parhau i wrthod cynnig y mwyafrif o’u gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, gan sathru ar hawliau siaradwyr Cymraeg. Ni fydd hyn yn newid hyd nes ceir Deddf Iaith Newydd.”Y DyfodolRhwng nawr a'r Nadolig, bydd Cymdeithas yr Iaith yn mynd ati yn gyson i dargedu llu o gwmniau, mewn trefi trwy Gymru gyfan, er mwyn pwysleisio gwendidau sylfaenol Deddf Iaith 1993. Ymhellach, yn gynnar yn y flwyddyn newydd, bydd y Gymdeithas yn cynnal Fforwm Genedlaethol gyda’r nod o amlinellu yr hyn y dylid ei gynnwys mewn Deddf Iaith Newydd.Meddai Huw Lewis:“Bellach, mae dros ddegawd ers pasio’r Ddeddf Iaith bresennol. O ganlyniad, mae nawr yn adeg briodol i ddechrau ystyried yr angen i ddiwygio a chryfhau’r ddedfwriaeth. Yn wir, o ystyried y modd y mae preifateiddo, ynghyd â’r twf yn nylanwad technoleg, yn trawsneid y modd y caiff gwasanaethau eu cynnig, mae angen brys i wneud hyn. Os na fyddwn yn wynbeu’r her, bydd siaradwyr Cymraeg yn colli cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan o’u bywydau bob dydd.“Mae Meirion Prys Jones – Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith – wedi dweud yn gyhoeddus ei fod yn ddigon parod i ystyried yr angen am Ddeddf Iaith Newydd, os profir bod digon o dystiolaeth. O ganlyniad, dros y misoedd nesaf bydd Cymdeithas yr Iaith yn tynnu sylw, dro ar ôl tro, at y dystiolaeth sydd i’w weld ar hyd a lled Cymru.”Ychwanegodd Hedd Gwynfor, Is-gadeirydd Cyfathrebu'r Gymdeithas:"Yn benllanw i'r ymgyrch newydd hon, byddwn yn cynnal Fforwm Genedlaethol ar Ddeddf Iaith a gynhelir yn yr Hen Goleg, Aberystwyth ar Ddydd Sadwrn Mawrth 12fed 2005. Ein nôd yw darbwyllo Bwrdd yr Iaith i argymell fod y Cynulliad yn mynnu deddf newydd o'r fath gan San Steffan. Y mae Hywel Williams A.S. wedi cytuno i annerch y fforwm, ac y mae Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith - Meirion Prys Jones - wedi cytuno i ymateb."Stori yn y Western MailStori yn y Daily Post