Ar nos Iau, y 14eg o Orffennaf aeth aelodau o Gymdeithas-yr-iaith o Ddyffryn a Gorllewin Clwyd ati gydag ymgyrch sticeri. Bu'r aelodau yn rhoi sticeri 'Ildiwch' a 'Ble mae'r Gymraeg?' ar arwyddion Give Way. Mae hyn yn rhan o ymgyrch y Gymdeithas dros yr haf i danlinellu'r angen am Ddeddf Iaith gynhwysfawr a fyddai'n ateb anghenion Cymru yn yr Unfed Ganrif Ar Hugain.
"Dylai'r arwyddion fod yn gwbl ddwyieithog o dan y Ddeddf Iaith bresennol ond dyma enghraifft o sut nad yw'r Ddeddf yn effeithiol. Mae Deddf iaith 1993 wedi chwythu ei phlwc. Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu arwyddion dwyieithog. Byddwn ni'n parhau i dargedu tra bo'r sefyllfa'n aros yr un fath."Meddai Dewi Snelson, Swyddog Maes Cymdeithas yr Iaith yn y Gogledd.Bydd yr ymgyrchwyr yn parhau i dargedu'r arwyddion yn yr ardal fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau i bwysleisio mai nawr yw'r cyfle i'r Cynulliad gael yr hawl i wneud penderfyniadau dros y Gymraeg a chael pwer deddfu yn y maes.