Fel rhan o’r ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Aberystwyth neithiwr yn glynu sticeri ar siopau cadwyn, banciau a Chymdeithasau Adeiladu yn y dref. Roedd y sticeri hyn yn galw am 'Ddeddf Iaith Newydd' .Ymysg y siopau a dargedwyd roedd Woolworth, Barclays, Abbey, Burtons, Subway a Dorothy Perkins.etc. Roedd hyn yn dilyn ymgyrch debyg yn Aberteifi a’r Trallwng yn gynharach yn yr wythnos.
Mae’r gweithredu neithiwr yn arwydd fod y Gymdeithas wedi ail gydio yn yr ymgyrch hon dros Ddeddf Iaith a hynny ar drothwy cyfarfod cyhoeddus a drefnir gan y Gymdeithas yn yr Eglwys Norwyaidd yng Nghaerdydd yn ystod Eisteddfod yr Urdd yr wythnos nesaf.Teitl y cyfarfod fydd ‘Deddf Iaith – Dyma’r Cyfle’ ac fe’i cynhelir am 3.30, Mehefin 1af yn yr Eglwys Norwyaidd Caerdydd. Y siaradwyr fydd yr Athro Colin Williams o Brifysgol Caerdydd a Huw Lewis, Catrin Dafydd a Sian Howys o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Roedd y gweithredu yn Aberteifi, Trallwng ac Aberystwythyn arwydd o benderfyniad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i weithrdu’n uniongyrchol dros Ddeddf Iaith ar drothwy y cyfarfod yng Nghaerdydd. Targedwyd y siopau cadwyn yn arbennig am ein bod am weld unrhyw ddeddfwriaeth newydd ar yr iaith Gymraeg yn ymestyn i’r sector breifat."Stori oddi ar wefan y Daily PostStori oddi ar wefan y Carmarthen Journal