Fe ddywedodd Menna Machreth, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'r newyddion hyn, yn ogystal â phenderfyniad y BBC i ddiddymu rhan o'i gwasanaeth ar-lein yn y Gymraeg, yn destun pryder fawr iawn. Rydym ar fin colli rhywbeth unigryw - sef yr unig sianel deledu yn yr iaith Gymraeg yn y byd. Dyma pam rydym yn ymgyrchu yn erbyn cydgynllun y BBC a'r Llywodraeth i gwtogi'n enfawr ar gyllideb S4C. Mae miloedd o bobl wedi ymuno yn ein hymgyrch - trwy fynychu ralïau, cyfarfodydd ac ysgrifennu llythyrau er mwyn achub y sianel. Gyda mwy a mwy o bobl yn dechrau ymgyrchu, fe fydd rhaid i'r gwleidyddion ddechrau gwrando."