Toni Schiavone i ymddangos yn y llys

Bydd Toni Schiavone yn ymddangos gerbron y llys eto fore ddydd Gwener yma (Awst 4) gan bod cwmni parcio One Parking Solutions yn parhau i wrthod darparu dirwy parcio na gohebiaeth Gymraeg.

Bu Toni yn y llys fis Mai eleni yn barod, a gan iddo fynnu achos yn Gymraeg roedd rhaid i One Parking Solutions gyfieithu’r holl bapurau, gan gynnwys y ddirwy ei hun. Ni ymddangosodd One Parking Solutions i’r achos llys fis Mai, a felly taflwyd ef allan. Mae’r achos bellach yn ôl yn y llys.

Er hynny, mae’r cwmni’n parhau i geisio’r taliad ond yn gwrthod darparu dirwy i Toni ei hun yn Gymraeg, ac yn gohebu yn Saesneg yn unig gydag o.

Dywedodd Toni Schiavone, cyn ei achos llys:
"Mae'n drist iawn gweld bod y cwmni One Park Solutions yn gwrthod darparu gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r gost o gynnal yr achos llys ganwaith yn fwy na'r gost o ddarparu llythyr dirwy Cymraeg. Yn ôl y cwmni, gan fy mod i yn gallu siarad Saesneg does sim angen iddynt ddarparu gwasanaeth yn y Gymraeg. Mae'r agwedd yma yn hollol annerbyniol ac yn hollol groes i hawliau siaradwyr Gymraeg.
“Mae yna gannoedd os nad miloedd o feysydd parcio yng Nghymru yng ngofal cwmnïau preifat o Loegr. Mae'r ymgyrch i sicrhau arwyddion Cymraeg yn y meysydd yma yn parhau ond mae angen hefyd sicrhau gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Ni fyddaf yn talu’r dirwy oni bai fy mod yn derbyn gohebiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg
."

Mewn achos debyg yng Nghaernarfon yn ddiweddar dyfarnodd y barnwr Mervyn Jones-Evans o blaid diffynnydd oedd yn gwrthod talu dirwy uniaith Saesneg, gan nad yw cyhoeddiadau uniaith Saesneg neu Gymraeg yn hysbysiadau digonol i gydymffurfio gyda atodlen 4 Deddf Diogelu Rhyddid 2012. Cyhoeddodd hefyd rybudd barnwrol y dylai pob arwydd mewn meysydd parcio yng Nghymru fod yn ddwyieithog.

Dywedodd Sian Howys, Cadeirydd Grŵp Hawl i’r Gymraeg Cymdeithas yr Iaith:
“Perchnogion y cwmni maes parcio ac nid Toni Schiavone ddylai fod yn ymddangos gerbron y llys. Mae'r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru ac mae meysydd parcio a reolir gan gyrff cyhoeddus yn defnyddio'r Gymraeg tra bod y cwmni preifat yma yn sarhau pobl Cymru.
“Galwn ar Jeremy Miles i ail-ystyried ei safbwynt ef ar y mater a gweithredu i sicrhau bod cwmnïau fel One Parking Solutions sydd yn gwneud elw yng Nghymru yn parchu'r Gymraeg trwy arddangos arwyddion, darparu opsiwn talu a phob gweinyddu yn Gymraeg.”

Byddwn ni'n dechrau ar ymgyrch i bwyso ar gwmnïau parcio preifat i osod arwyddion gwybodaeth Cymraeg yn eu meysydd parcio a gohebu gyda defnyddwyr yn Gymraeg.