Toriadau i Gymraeg i Oedolion - cyfle i'r Cynulliad eu stopio

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi condemnio’r toriadau i’r rhaglen Cymraeg i Oedolion gan rybuddio y bydd yn arwain at lai o siaradwyr Cymraeg.

Heddiw, mae’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi toriad o 8% ar gyfer y rhaglen Cymraeg i Oedolion y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Robin Farrar:

“Mae’n newyddion trychinebus. Mae’r Gymraeg yn wynebu argyfwng; mae hynny’n glir o ganlyniadau’r Cyfrifiad. Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru? Toriadau i ddarpariaeth sy’n cynhyrchu mwy o siaradwyr, er bod ymgynghoriad y Llywodraeth ei hun wedi argymell mwy o fuddsoddiad. Mae Llywodraeth Cymru wedi methu â blaenoriaethu’r Gymraeg, a dylai aelodau’r cynulliad wrthwynebu’r penderfyniad hwn. Bydd pob Aelod Cynulliad sy’n methu â phleidleisio yn erbyn y gyllideb wythnos nesaf yn caniatâu toriadau, toriadau fydd yn niweidiol i iaith unigryw Cymru.”

Wrth gyfeirio at yr adolygiad, ychwanegodd:

“Yn ein hymateb i’r adolygiad, gofynnon ni am newidiadau i’r system, ond rhagor o fuddsoddiad hefyd. Dyna oedd casgliad ymgynghoriad y Llywodraeth ei hunan - y Gynhadledd Fawr. Ond mae’n debyg bod Carwyn Jones wedi anwybyddu’r dystiolaeth yma’n llwyr.”

Mae’r Gymdeithas wedi rhoi tan Chwefror 1af i’r Prif Weinidog ddatgan ei fwriad i weithredu mewn chwe maes polisi er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn tyfu dros y blynyddoedd i ddod. Bydd y grŵp pwyso yn cynnal rali yn Aberystwyth ar Ragfyr y 14eg, blwyddyn ers cyhoeddi canlyniadau’r Cyfrifiad, er mwyn atgoffa’r Llywodraeth o’r cyfrifoldeb sydd arnyn nhw i weithredu.

Anfonwch ebost at eich Aelodau Cynulliad i wrthwynebu'r toriadau