Trafodaeth dyngedfennol am S4C - Cyfarfod Cyffredinol

cyfcyff2010-1.jpgBydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn trafod dyfodol S4C mewn cyfarfod cyhoeddus yn Aberystwyth heddiw (2pm, Dydd Sadwrn, 30ain Hydref).Mae'r Llywodraeth yn bwriadu gwneud toriad o 94% i grant y sianel, a throsglwyddo'r cyfrifoldeb ariannu'r darlledwr i'r BBC. Bydd Alun Davies AC Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn ymuno i gyfrannu at y drafodaeth. Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am newidiadau i S4C, ond yn dadlau nad torri ar gyllid y sianel yw'r ffordd orau i wella'r gwasanaeth.Fel rhan o'r drafodaeth bydd cynnig brys yn cael ei gyflwyno a fydd yn galw ar bobl i wrthod talu eu trwydded teledu o fis Rhagfyr ymlaen, os na fydd y Llywodraeth yn fodlon newid eu cynlluniau i uno S4C a'r BBC.Yn siarad cyn y cyfarfod cyffredinol, fe ddywedodd Bethan Williams, darpar Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Yr iaith Gymraeg yw un o'r pethau cyntaf i ddioddef oherwydd toriadau'r Llywodraeth. Maen nhw'n gofyn i bobl adael eu cymunedau i edrych am waith, yn diswyddo gweithwyr sydd yn darparu gwasanaethau Cymraeg, a gofyn i bobl fynd i Peterborough i dderbyn gwasanaethau pasport. Ar ben hynny, mae Llywodraeth Prydain gyda'u partneriaid y BBC yn Llundain yn bygwth dyfodol unig sianel Gymraeg y byd. Wrth i'r unig sianel Gymraeg gael ei thraflyncu gan y BBC, bydd tynged yr iaith yn nwylo darlledwr yn Llundain sydd yn gorfod gwneud toriadau eithafol ei hunan.""Mae'r BBC wedi bod yn gamarweiniol tu hwnt wrth honni eu bod nhw'n achub S4C trwy gymryd y sianel dan eu harweiniad. Y gwir plaen amdani yw mai stitch-up llwyr, munud olaf rhwng Jeremy Hunt a rheolwyr y BBC yn Llundain yw'r cynlluniau hyn. Nid ein cymunedau nac S4C yn uniongyrchol sydd yn gyfrifol am y dirwasgiad felly pam mai nhw fydd yn gorfod dioddef? Ni fydd pobl Cymru yn fodlon derbyn y penderfyniadau hollol annemocrataidd hyn, dyna pam y byddwn ni'n trafod cynnig brys ar y mater. Dydyn ni ddim yn mynd i adael i'r iaith Gymraeg ddiflannu yn y 21ain ganrif. Rydym yn annog pobl i ddod i'n rali ar y 6ed o Dachwedd yng Nghaerdydd er mwyn ennill yr ymgyrch dros y Gymraeg ac unig sianel deledu Cymraeg y byd."

Mae'r cynnig, a drafodir yng Nghyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg heddiw yn galw ar bobl i wrthod talu eu trwyddedau teledu "o'r 1af o fis Rhagfyr ymlaen" er mwyn newid penderfyniad Llywodraeth Llundain i uno S4C â'r BBC.'Boycott TV licence in protest at stitch-up' - Western Mail - 01/11/10FIDEO: Cymdeithas yr Iaith o blaid gwrthod talu'r drwydded - BBC Cymru - 30/10/10Newidiadau S4C yn arwain at gais i wrthod y drwydded - BBC Cymru - 30/10/10Y Gymdeithas yn galw protest frys tros S4C - Golwg360 - 30/10/10S4C changes prompt call for 'licence fee boycott' - BBC Wales - 30/10/10Language campaigners to refuse to pay TV licence fee - Western Mail - 27/10/10Viewers urged to boycott licence fee over S4C - broadcastnow.co.uk - 26/10/10Welsh group calls for licence fee boycott over S4C - Guardian - 25/10/10cyfcyff2010-2.jpg cyfcyff2010-3.jpgcyfcyff2010-4.jpg cyfcyff2010-5.jpgcyfcyff2010-6.jpg