Trefnu Protest ar y Cyd gyda Cymuned yn y Steddfod

eisteddfod.JPGAm y tro cyntaf mae Cymuned a Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cynnal protest ar y cyd a hynny ar Faes Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau ym Meifod brynhawn dydd Gwener. Bwriad y brotest oedd tynnu sylw at yr argyfwng tai sy'n tanseilio cymunedau ar draws Cymru a phwysleisio rhai camau y gall Llywodraeth y Cynulliad eu cymryd er mwyn ymdrin ’'r broblem.

Fe orymdeithodd y ddau fudiad o babell Y Lolfa i babell Llywodraeth y Cynulliad.Yno fe fu Simon Thomas, AS Ceredigion, Simon Brooks o Cymuned, Huw Lewis, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith ac Aled Davies, Swyddog Ymgyrch Deddf Eiddo Cymdeithas yr Iaith, yn annerch y dyrfa.Cafodd y brotest ei chynnal er mwyn tynnu sylw at y broblem na all pobol ifanc lleol fforddio prynu tai yn eu cymunedau ac o ganlyniad maen nhw'n gorfod gadael eu br–ydd.Penderfynodd y ddau fudiad gynnal protest ar y cyd wedi cyhoeddiad gan Edwina Hart, Gweinidog Tai y Cynulliad, ddechrau mis Gorffennaf.Dywedodd Ms Hart na fyddai unrhyw arian ychwanegol ar gael ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu.Cynllun oedd hwn a gafodd ei sefydlu gyda'r bwriad o helpu teuluoedd i brynu tai yn eu cymunedau.Mae'r ddau fudiad yn dadlau fod y Llywodraeth wedi gwrthod cymryd un o'r camau symlaf posib tuag at leddfu'r argyfwng tai yng Nghymru wrth fethu ’ darparu mwy o gyllid ar gyfer y cynllun.Maen nhw hefyd yn galw am gynnydd sylweddol yn y gyllideb bresennol sy'n cael ei ddarparu ar gyfer y cynllun.Meddai Huw Lewis, Cadeirydd yr Iaith: "Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gwrthod un o'r camau rhwyddaf y gall y Cynulliad ei wneud o fewn ei bwerau ac mae'n dangos diffyg ewyllys ar eu rhan."Mae Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu ar nifer o faterion ac mae'r ymgyrch tai yn un ohonyn nhw ac fe fydden ni'n barod i gydweithio ag unrhyw fudiad neu blaid arall sy'n cytuno ’ ni.Wrth egluro pam y penderfynodd Cymuned gydweithredu ’ Chymdeithas yr Iaith, meddai Gwilym ab Ioan o Cymuned: "Mae'n gwneud synnwyr i gydweithredu gan ein bod ni'n ddau fudiad gyda'r un nod ac mae'n dyheadau ni yr un fath ar y pwnc hwn."Does yna ddim gelyniaeth rhyngddon ni ac rydyn ni'n ymgyrchu mewn gwahanol feysydd a phan mae'r meysydd hynny'n cyffwrdd ’'i gilydd rydyn ni'n fwy na pharod i gydweithredu er budd y genedl.Nid yw Gwilym ab Ioan yn credu fod angen uno'r ddau fudiad."Mae'r ffurfafen yn rhy eang ac mae'n anodd i un mudiad flaenoriaethu a chanolbwyntio ar amryw o bynciau unigol," meddai.Stori llawn wedi'r Digwyddiad BBC Cymru'r BydY Stori (cyn y digwyddiad) oddi ar BBC WalesY Stori (cyn y digwyddiad) oddi ar BBC Cymru'r Byd