Trefnu trip siopa yn Aberystwyth

Codi Sticeri Ble mae'r GymraegAm 12 o’r gloch prynhawn dydd Sadwrn Rhagfyr 11eg bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, o dan arweiniad Sion Corn, yn trefnu trip siopa Nadolig drwy strydoedd Aberystwyth.

Bydd y ‘trip siopa’ yn cychwyn tu allan i Siop y Pethe ac yn mynd yn ei flaen drwy’r dre.Mae bwriad difrifol i’r trip siopa sef gwneud arolwg o’r defnydd o’r Gymraeg yn siopau'r dref. Bydd sticeri 'Ble Mae'r Gymraeg - Deddf Iaith Newydd' yn cael ei lynu ar ffenestri’r siopau hynny nad ydynt yn gweithredu polisi dwyieithog.Mae’r ymgyrch hon yn rhan o ymgyrch ehangach dros Ddeddf Iaith a gychwynwyd gan Gymdeithas tr Iaith Gymraeg rai misoedd yn ôl pan gafodd sticeri yn galw ar Ddeddf Iaith eu glynnu ar siopau yn Aberystwyth, FFlint, Bangor, Caernarfon, Aberteifi, Carfyrddin a Chaerdydd.Bydd yr ymgyrch ynmynd yn ei blaen tan oleiaf Fawrth 12fed pan fydd y Gymdeithas yn cynnal FForwm Genedlaethol ar Ddeddf Iaith yn yr Hen Goleg, Aberystwyth.Stori oddi ar wefan y Western Mail