Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Alun Davies o geisio 'twyllo' pobl yn ei ymateb i'r diffyg Cymraeg ar wasanaethau trenau GWR.
Ar 31ain Hydref llynedd, cyflwynodd Comisiynydd y Gymraeg adroddiad Safonau i Lywodraeth Cymru sy'n galluogi'r Gweinidog i gyflwyno Safonau'r Gymraeg yn y maes i'r Cynulliad eu pasio. Er y pwerau sydd eisoes gyda fe i osod Safonau ar gwmnïau trên preifat, mi ddywedodd Alun Davies AC ar Twitter "rhaid ymestyn cwmpas y ddeddf fel ei fod e’n bosib gosod safonau ar y sector preifat am y tro cyntaf."
Mae'r Gweinidog wedi awgrymu yn ogystal nad yw'n bwriadu symud ymlaen gyda phasio Safonau, heblaw am rai yn y maes iechyd, tan ar ôl cwblhau ei gynlluniau i newid yr holl broses y gall cymryd rhai blynyddoedd.
Meddai Heledd Llwyd, cadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith:
"Pe byddai'n dymuno, gallai Alun Davies wneud rhywbeth go iawn am hyn yn lle dim ond lleisio barn yn gyhoeddus am y peth. Mae fe'n gallu gosod Safonau ar GWR a chwmnïau trên eraill nawr er mwyn sicrhau gwasanaethau Cymraeg; fe sydd wedi dewis peidio gweithredu'r pwerau sydd gyda fe. Mae adroddiad y Comisiynydd am drenau sy'n caniatáu pasio Safonau drwy'r Cynulliad wedi bod yn eistedd ar ei ddesg ers mis Hydref llynedd. Ond, eto, dyw e heb weithredu - mae'n ceisio twyllo pobl.
"Felly, yn lle gweithredu, mae Alun Davies yn gwastraffu amser ar ei syniad ffôl i wanhau rheoleiddio a chael gwared â'r Comisiynydd. Rhaid rhoi ei gynlluniau presennol yn y bin, ac ymestyn hawliau ieithyddol i'r sector breifat - rhywbeth y gallai fe wneud nawr yn achos cwmnïau trên."
"Mater o barch sylfaenol at y Gymraeg yw sicrhau bod arwyddion a chyhoeddiadau dwyieithog ar drenau yng Nghymru - does dim esgus i beidio. Mae'r ffaith fod GWR wedi dweud nad oes cynlluniau i sicrhau hyd yn oed y pethau syml hyn, a'u bod wedi colli cyfleoedd hawdd i wneud hynny, yn dangos nad ydyn nhw fel cwmni yn addas i gynnal gwasanaeth drenau yng Nghymru."