Treth ar Google i ariannu darlledu yn y Gymraeg?

Dylai fod treth ar hysbysebion er mwyn sefydlu darlledwr Cymraeg newydd a fyddai’n gweithredu ar radio, teledu ac arlein, yn ôl papur trafod sy’n cael ei lansio gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg heddiw (3:30yp, Dydd Llun, Awst 4ydd).

Bydd y mudiad iaith yn cyhoeddi papur sy’n argymell codi cannoedd o filiynau o bunnau drwy dreth newydd - ar hysbysebion a darlledwyr preifat - er mwyn ariannu darlledu aml-gyfrwng Cymraeg a darlledwyr cyhoeddus eraill. Dywed yr ymgyrchwyr fod elw cwmnïau fel Sky a Google wedi cynyddu yn sylweddol dros y blynyddoedd diweddar, tra bod yr arian sydd ar gael i ddarlledwyr cyhoeddus wedi cael ei gwtogi’n llym. Talodd Google £11.2 miliwn yn unig mewn treth gorfforaethol yn 2012, ar incwm o £3.5 biliwn yng ngwledydd Prydain.  Mae BSkyB bellach yn gwneud elw o £1.3 biliwn y flwyddyn. Ar yr un pryd, mae ariannu o goffrau’r Llywodraeth ar gyfer S4C wedi cael ei gwtogi o 92% ers 2010.

Bydd y papur trafod yn cael ei lansio yn ffurfiol mewn cyfarfod ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli heddiw - ymysg y siaradwyr fydd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Prif Weithredwr y Grŵp Hawliau Agored Jim Killock, Sian Gale o’r undeb darlledu BECTU a Robin Owain o Wikimedia.

Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae’n rhaid meddwl o’r newydd ynglŷn â sefyllfa darlledu yng Nghymru. Mae’r ffordd mae pobl yn defnyddio’r cyfryngau, a natur y ‘llwyfannau’ maen nhw’n eu defnyddio, yn newid yn gyflym, ac mae’n rhaid sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu yn yr oes ddigidol sydd ohoni. Rydyn ni o blaid creu darlledwr newydd-  neu ddarparydd fel sy’n fwy cywir i’w alw - fydd yn barod ar gyfer yr oes aml-blatfform.”

Gan fod pwerau newydd yn dod i’r Cynulliad, medd y mudiad y gallai treth o’r fath gael ei godi ar lefel Gymreig, Prydeinig neu Ewropeaidd a gallai’r darparydd Cymraeg newydd fod o fudd i S4C a Radio Cymru.

Ychwanegodd Greg Bevan, Cadeirydd Grŵp Digidol y Gymdeithas: “Mae’r toriadau llym, nid yn unig i S4C, ond i’r BBC ac i bapurau newyddion, yn digwydd oherwydd cyfuniad o benderfyniadau ideolegol yn Llundain a newidiadau technolegol. Mae dyletswydd arnon ni fel mudiad,nid yn unig i alw am wasanaethau Cymraeg newydd, ond hefyd i gynnig ffynonellau ariannol newydd. Mae wedi dod i’r amlwg fod sawl cwmni - fel Google a Sky - heb gyfrannu bron dim at gynnwys gwreiddiol Cymreig, heb sôn am allbwn Cymraeg. Ar yr un pryd mae arian cyhoeddus ar gyfer S4C wedi cael ei gwtogi o 92%, ac mae ffi’r drwydded wedi cael ei rhewi.”

“Gyda phwerau trethu yn cael eu datganoli i Gymru, ac etholiad San Steffan ar y gorwel, rwy’n gobeithio y bydd y papur hwn yn sbarduno trafodaeth ynglŷn â threthu arloesol er lles ieithoedd lleiafrifoledig ac er budd y cyhoedd yn gyffredinol. Mae nifer o ddarlledwyr cyhoeddus ar draws Ewrop wedi dioddef oherwydd llymder. Gallai trethu arloesol fod yn ateb. Yng Nghymru, dylai’r arian gael ei glustnodi ar gyfer allbwn Cymraeg a darlledwr Cymraeg newydd. Gallai’r darlledwr newydd yna fod o fudd sylweddol i S4C ac i Radio Cymru, gan na fyddai’r un ddyletswydd arnynt i fod yn bopeth i bawb.”

Yn siarad cyn y cyfarfod ar y maes, dywedodd Jim Killock, Prif Weithredwr y Grŵp Hawliau Agored:Mae gan bobl yr hawl i ddefnyddio eu diwylliant ac mae hynny’n berthnasol i'r rhyngrwyd yn union fel mewn mannau eraill. Y cwestiwn yw dod o hyd i'r ffyrdd gorau i annog a chefnogi creadigrwydd a defnydd yr iaith Gymraeg. Yn fy marn i, mae angen i hyn gynnwys gwasanaethau annibynnol cymunedol cymaint â gweithgareddau swyddogol, a ariennir yn dda. Mae'n her i greu amrywiaeth o'r brig i lawr, ond mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn gefnogol.”

[Darllenwch y papur llawn]