Tri yn wynebu achos llys er mwyn datganoli pwerau darlledu i Gymru

Mae tri o bobl yn wynebu achosion llys yn fuan am beidio talu am eu ffi drwydded deledu fel rhan o ymgyrch i ddatganoli pwerau darlledu i Gymru, fe ddatgelwyd heddiw (dydd Mercher, 8fed Awst). 

Williams Griffiths o Fodorgan yn Ynys Môn,  Ffred Ffransis o Lanfihagel-ar-Arth yn Sir Gaerfyrddin a Heledd Gwyndaf o Dalgarreg yng Ngheredigion yw'r bobl sydd wedi cael eu cyhuddo'n ffurfiol ac sy’n disgwyl achos llys yn y dyfodol agos. Nhw fydd y bobl gyntaf i fynd gerbron llys ers i Gymdeithas yr Iaith annog pobl i ddechrau gwrthod talu am eu ffi drwydded deledu y llynedd fel ymdrech i sicrhau bod pwerau darlledu yn cael eu datganoli i Gymru. Mae'r mudiad yn dweud bod dros 70 o bobl yn gwrthod talu am eu ffi drwydded fel rhan o'r ymgyrch ar hyn o bryd.    

Meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, sy'n un o'r bobl sydd wedi derbyn cyhuddiad ac yn disgwyl dyddiad yr achos llys 

"Rwy'n ddiolchgar i bawb sy'n cyfrannu i'r ymgyrch mewn gwahanol ffyrdd, ac rwy'n barod i ddadlau'r achos yn y llys. O ddiffyg presenoldeb y Gymraeg ar radio masnachol a theledu lleol, i'r toriadau difrifol i S4C, i’r diffyg cynnwys Cymreig yn y cyfryngau, mae’n glir nad yw Llundain yn rheoli'r cyfryngau er budd pobl Cymru. Mae hi hefyd yn amlwg bod gan Gymru ddiffyg democrataidd mawr: mae'r darlledwyr Prydeinig yn drysu pobl drwy adrodd ar yr holl benderfyniadau sy'n effeithio ar Loegr yn unig fel petai’n berthnasol i ni. Mae angen i’r penderfyniadau dros y cyfryngau yng Nghymru gael eu gwneud gan bobl Cymru.  Mae’n bryd datganoli darlledu.”  

"Nawr yw'r amser i sicrhau ein bod ni yng Nghymru yn rheoli ein cyfryngau er lles yr iaith a holl gymunedau Cymru. Ac mae'r cyhoedd gyda ni: yn ôl arolygon barn, mae mwyafrif clir o bobl Cymru o blaid datganoli maes darlledu yn ei gyfanrwydd i Gymru."   

"Byddai datganoli darlledu felly yn hwb enfawr i ddarlledu a democratiaeth Cymru, gyda llawer mwy o arian yn cael ei wario ar raglenni am Gymru, o Gymru ac yng Nghymru nag sydd heddiw. Yn ogystal â hynny, byddai'r holl raglenni darlledu cyhoeddus yn cael eu cynhyrchu o safbwyntiau Cymru felly byddent yn adlewyrchu dyheadau pobl Cymru."