Mae galw am adolygiad allanol ar ôl i Gomisiynydd y Gymraeg gefnu ar addewid i ddirwyo adran gyllid Cyngor Wrecsam wedi i’r awdurdod dorri’r gyfraith drwy beidio darparu dogfennau trethi yn Gymraeg am y bumed flwyddyn ers cael gwybod am fethiannau.
Mewn adroddiad ar fethiant Cyngor Wrecsam i ddarparu gohebiaeth trethi yn gywir yn Gymraeg, dywed swyddfa’r Comisiynydd: “... mae’r Cyngor yn parhau i gynhyrchu gohebiaeth nad yw’n cydymffurfio ... er gwaetha nifer o ymyriadau gennyf. Mae’r gŵyn hon yn amlygu nad yw’r Cyngor wedi cymryd pob cyfle yr wyf wedi ei gynnig i atal methiannau fel rhain rhag cael eu hailadrodd neu barhau. Rwyf o’r farn fod y mater yma o ddiddordeb i drigolion y fwrdeistref gan eu bod yn cael eu heffeithio dro ar ôl tro gan fethiant y Cyngor i gymryd camau digonol i fynd i’r afael a’r methiant i gydymffurfio yn llawn … Yn achos fy nyfarniad arfaethedig fod [y Cyngor] wedi methu â chydymffurfio â safon 6, byddaf yn gosod cosb sifil.”
Fodd bynnag, mewn e-bost yn ddiweddarach at yr achwynydd, honnodd swyddog y Comisiynydd: “Ni chafodd y bwriad o osod cosb sifil ei argymell na’i drafod gyda’r Comisiynydd wrth gyflwyno’r adroddiad arfaethedig iddo ei ystyried."
Mae Cymdeithas yr Iaith yn honni mai dim ond yr enghraifft ddiweddaraf o’r Comisiynydd newydd yn ceisio gwanhau’r system o warchod hawliau iaith yw’r tro pedol ar ddirwyo adran gyllid yr awdurdod.
Mae’r Comisiynydd, a ddechreuodd ei swydd ym mis Ebrill eleni, wedi bod yn ymchwilio i lai na 40% o’r cwynion a dderbynnir ganddo - hanner lefel ei ragflaenydd. Ac, yn gynharach eleni, darganfuwyd gohebiaeth oddi wrth Weinidog y Gymraeg at y Comisiynydd yn pwyso arno i gynnal llai o ymchwiliadau.
Meddai Bethan Ruth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
“Mae’r tro pedol hwn yn amlygu camweinyddiaeth ddofn a difrifol y Comisiynydd newydd. Mae o wedi gwneud cyfres o gamgymeriadau ers iddo gael ei benodi - rhai’n fwriadol a rhai’n anfwriadol. Ond mae e’n sicr wedi mynd ati i wanhau a meddalu ei brosesau er lles sefydliadau ac ar draul hawliau unigolion.
Mae’n hollol amlwg ei fod yn ceisio plesio Llywodraeth Cymru er mwyn cael mwy o arian yn ei gyllideb y flwyddyn nesaf. Mae angen iddo fagu dipyn o asgwrn cefn er mwyn diogelu ein hawliau ni. Mae pobl wedi brwydro’n galed ers degawdau i ennill hawliau iaith, nid lle’r Comisiynydd yw dewis a dethol pa rai mae e’n poeni amdanyn nhw.
“Mae’n destun pryder mawr bod llai a llai o gwynion yn destun ymchwiliad statudol. Mae gwrthod agor ymchwiliadau i gymaint o gwynion yn gwanhau ein hawliau iaith. Heb ymchwiliadau i gwynion, does dim modd gorfodi unrhyw newid i bolisi neu aferion sefydliad. Felly, drwy ymddwyn fel hyn, bydd cyrff yn cael y neges ei bod yn iawn iddyn nhw anwybyddu’r gyfraith. Tra bod pobl o ganlyniad yn parhau i wynebu rhwystrau i ddefnyddio’r Gymraeg, mae ‘na bergyl hefyd y bydd y cyhoedd yn colli ffydd yn y Comisiynydd i ymdrin â’u cwynion o ddifrif. Dylai Aled Roberts ganolbwyntio ar wneud ei gyfrifoldebau rheoleiddio presennol yn iawn er lles y Gymraeg, yn hytrach na gwasanaethu mympwy Llywodraeth y dydd.”
Yn eu cwyn ffurfiol at y Comisiynydd sy’n galw arno i benodi archwilwyr allanol i ymchwilio i benderfyniadau’r Comisiynydd newydd, meddai Cymdeithas yr Iaith:
“Mae nifer o’n haelodau a’n cefnogwyr yn pryderu nad yw gwasanaethau Cymraeg yn bodoli neu’n gwella fel y gallen nhw o achos y newidiadau yn y ffordd mae’r Comisiynydd wedi bod yn ymdrin â chwynion ers mis Ebrill eleni. Mewn nifer o achosion unigol, mae’r newid polisi wedi effeithio’n negyddol ar yr unigolion sydd wedi cwyno - dydyn nhw heb gael cyfiawnder. Credwn ymhellach bod y newid i’r ffordd mae’r Comisiynydd a’i swyddogion yn ymdrin â chwynion yn groes i lythyren ac ysbryd nifer o ddarpariaethau deddfwriaeth, polisi ac arfer gweinyddiaeth dda.”