Tro-pedol Cyngor Caerdydd dros addysg Gymraeg

Cyngor “ddim yn gwybod beth maen nhw'n ei wneud” - medd Cymdeithas yr Iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Gyngor Caerdydd i ail-ystyried ei gynllun ad-drefnu addysg yn y ddinas wedi i'r Prif Weinidog gadarnhau eu bod yn gweithredu'n groes i'w gynllun addysg Gymraeg eu hunain.

Byddai Cyngor Caerdydd yn gweithredu yn groes i’w gynllun addysg ei hunan petai ei weinyddiaeth Lafur yn penderfynu peidio ag adeiladu ysgol Gymraeg yn ardal Grangetown, medd Prif Weinidog Cymru.

Mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig a godwyd gan Leanne Wood, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, dywed Prif Weinidog Cymru : “Nid yw’r penderfyniad diweddar i beidio â bwrw ymlaen gydag ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn Grangetown yn adlewyrchu’r cynllun [Cymraeg mewn addysg] a gyflwynwyd gan Gyngor Caerdydd yn gynharach eleni.”

Yn dilyn newid yn y gyfraith, mae bellach yn orfodol i bob awdurdod lleol ddangos yn eu ‘Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg’ sut y maent yn ymateb i'r galw cynyddol am addysg gyfrwng Cymraeg. Mae swyddogion y Cyngor yn mynd i gwrdd â swyddogion Llywodraeth Cymru ar y 16eg o fis Medi. Mae’r Cyngor yn bwriadu dechrau ei ymgynghoriad ar gynlluniau sy’n cynnwys peidio ag agor ysgol Gymraeg yn Grangetown ym mis Medi eleni.

Dywedodd llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Ffred Ffransis: “Mae’r newyddion yn cadarnhau bod gweinyddiaeth Llafur Cyngor Caerdydd nid yn unig wedi anwybyddu ymgyrchwyr a rhieni, ond hefyd yn gweithredu’n groes i’w gynllun ei hun. Mae’n ffars. Maen nhw wedi gwneud llanast o’r broses; dyn nhw ddim yn gwybod beth maen nhw’n gwneud. Dylen nhw ddechrau o’r dechrau ac anrhydeddu eu haddewid i adeiladu ysgol Gymraeg yn Grangetown er mwyn sicrhau bod gan bob cymuned yn y ddinas ysgol Gymraeg i’r plant yn lleol.”

Dywedodd Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru ac Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru: “Mae’n siom fod y cyngor wedi gwneud tro pedol ar ei adduned i adeiladu ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn Grangetown i gwrdd â’r galw cynyddol gan rieni sydd am i’w plant dderbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos ei chefnogaeth i’r iaith a datgan yn glir a diamwys fod penderfyniad y cyngor i beidio â pharhau gyda chynlluniau ysgol Grangetown yn annerbyniol, ac na fyddant yn  cymeradwyo unrhyw opsiwn arall.

“Ni ddylai plant sy’n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg orfod dioddef cael eu trin yn eilradd o ganlyniad i agwedd wrth-Gymraeg yr awdurdod Llafur hwn. Mae ei safbwynt a’i agwedd yn mynd yn groes i bolisïau Llywodraeth Cymru.”

Dywed Ceri Owen, Swyddog Datblygu RhAG (Rhieni dros Addysg Gymraeg): “Mae RhAG yn croesawu datganiad y Prif Weinidog Carwyn Jones, sy'n gosod safbwynt Llywodraeth Cymru yn glir ar y mater hwn.

"Mae RhAG eisoes wedi galw am gysondeb wrth weithredu polisi cenedlaethol Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag Addysg Gymraeg ar lawr gwlad. Mae'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg bellach yn gosod dyletswydd statudol ar Awdurdodau Lleol i symbylu twf yn y sector. Mae penderfyniad cabinet Cyngor Caerdydd i beidio bwrw 'mlaen gyda'r addewid i sefydlu Ysgol Gyfrwng Cymraeg yn Grangetown yn tanseilio gallu'r Cyngor i gyflawni hynny ond yn bwysicach oll, yn gwadu'r cyfle i holl deuluoedd Grangetown gael mynediad hygyrch at Addysg Gymraeg yn eu cymuned leol.

"Mae ymateb y Prif Weinidog yn ategu'r cymeradwyaeth a gafwyd gan y Llywodraeth nôl yn 2011 a'r £6m o gyllid cyfalaf Ysgolion 21G sydd eisoes wedi'i glustnodi i'r prosiect.

"Galwn eto felly ar y cabinet i wyrdroi eu penderfyniad ac i anrhydeddu cynllun gwreiddiol Cyngor Caerdydd, sef i agor Ysgol Gymraeg yn Grangetown erbyn 2015."

Wythnos ddiwethaf, condemniodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg benderfyniad cabinet Cyngor Caerdydd i fwrw ymlaen â chynllun i beidio â sefydlu ysgol Gymraeg i Grangetown, Caerdydd fel un ‘cywilyddus’.  Mae’r cynigion, a fyddant yn mynd allan i ymgynghoriad ym mis Medi, yn cynnwys cynlluniau i adeiladu nifer o ysgolion Saesneg yn y ddinas ond i beidio agor ysgol cyfrwng Cymraeg newydd i Grangetown fel addawyd.