Tro-pedol ynghylch toriadau S4C? Sylwadau Cameron

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod rhaid dad-wneud y toriadau i gyllideb S4C wedi sylwadau Prif Weinidog Prydain yn y Senedd yn addo cadw at addewid maniffesto'r blaid i 'ddiogelu' ariannu'r darlledwr. 
 
Mewn ymateb i gwestiwn gan Simon Hart AS, dywedodd David Cameron: "Mae S4C yn ... boblogaidd iawn ac mae pobl yng Nghymru yn ei hoffi'n fawr ac rwy' eisiau sicrhau ein bod ni'n cyflawni geiriad ac ysbryd ein haddewid maniffesto er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i fod yn sianel gref iawn." 
 
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo'r Ceidwadwyr o ddweud 'celwyddau' wedi iddyn nhw gyhoeddi toriad o 26% i grant S4C er gwaethaf addewid ym maniffesto'r Ceidwadwyr i 'ddiogelu' cyllideb y sianel. Ym mis Hydref 2010 penderfynodd Llywodraeth Prydain gwtogi’r grant i S4C o 94% dros bedair blynedd o £101 miliwn yn 2010-11 lawr i £7 miliwn yn 2014/15.  Ond, cafwyd addewid ym maniffesto 2015 y Ceidwadwyr y bydden nhw'n "diogelu arian ac annibyniaeth olygyddol S4C.”   
 
Dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Os yw geiriau'r Prif Weinidog yn ddiffuant, dylen ni glywed cyhoeddiad yn fuan sy'n dad-wneud y toriadau i gyllideb S4C. Fel arall, geiriau gwag ydyn nhw. 
 
"Fel ag y mae, mae'r Ceidwadwyr wedi torri addewid maniffesto ac wedi dweud celwyddau wrth bobl Cymru. Mae torri dros chwarter y grant yn gwbl annerbyniol ac yn gwbl groes i'w haddewid yn yr etholiad."