Trydydd Diwrnod Taith Gerdded o Langefni > Gaerdydd

deddf_eiddo.gifAr y dydd Llun (Awst 18ed) mae Taith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg o Langefni i Gaerdydd ar ei thrydydd diwrnod ac yn mynd o Benygroes i Bwllheli. Ym Mhenygroes daeth criw ynghyd i ddymuno'n dda i'r cerddwyr. Yn eu mysg roedd Angharad Tomos, Ben Gregory a Judith Humphreys. Roedd yr Aelod Cynulliad lleol Alun Ffred Jones a Walis Wyn George, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Eryri yno hefyd. Gyda'r nos fe fydd Cyfarfod Cyhoeddus yng Nghanolfan Fron Deg Pwllheli gyda'r Cynghorydd Richard Parry Hughes, Iwan Edgar a Huw Lewis, Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cymryd rhan.

Daeth tyrfa dda i Langefni a Bangor i ddymuno'n dda i'r teithwyr ar y Dydd Sadwrn. Tra'n cerdded o Fangor i Caernarfon ar y dydd Sul arwyddywd y Datganiad Dros Ddyfodol Cymunedau gan Tom Jones arweinydd y TGWU yng ngogledd Cymru ar ran streicwyr Friction Dinamics. Cynhaliwyd gwasanaeth ar y Maes yng Nghaernarfon gyda Dafydd Iwan a llu o bobl leol yn cymryd rhan. Siaradodd Hywel Williams AS yn y cyfarfod ac fe baratodd ginio blasus i'r cerddwyr. Heddiw mae'r cerddwyr yn cerdded o Benygroes i Bwllheli a fory byddant yn mynd o Bwllheli i Benrhyndeudraeth.Meddai Huw Lewis, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Bwriad y daith yw i dynnu sylw at yr argyfwng tai sydd yn wynebu cymunmedau ar draws Cymru ac i bwysleisio'r camau hynny y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd er mwyn lleddfu'r sefyllfa."Ychwanegodd:"Erbyn cyllideb nesaf y Cynulliad fe ddylai'r Llywodraeth sicrhau cynnydd sylweddol yn yr arian a ddarperir ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu. Yn ogystal, dylid darparu digon o gyllid ar gyfer sefydlu'r 'Hawl i Rentu'. Byddai gweithredu yn y meysydd hyn yn gam cadarnhaol tuag at gyllido dyfodol i'n cymunedau.\Yn ystod y daith bydd aelodau Cymdeithas yr Iaith yn gwahodd pobl i arwyddo'r 'Datganiad dros dyfodol cymunedau Cymru'. Dyma ddatganiad o egwyddorion a ddylai fod yn sail i bolisiau tai cyfrifol. Eisoes mae'r datganiad hwn wedi cael ei ddosbarthu yn eang ac wedi derbyn cefnogaeth dros gant o Gynghorau Cymuned.Yn ogystal, er mwyn pwysleisio'r angen i Lywodraeth Cymru i weithredu erbyn cyllideb nesaf y Cynulliad yn y gaeaf, bydd aelodau'r Gymdeithas yn cario blwch coch arbennig yr holl ffordd i Gaerdydd. Yn y blwch yma byddant yn cadw anfonebau a fydd yn cael eu casglu gan wahaol gynghorwyr sir ar hyd y daith. Bydd yr anfonebau hyn yn nodi faint o gyllid sydd ei angen mewn gwahanol siroedd er mwyn sicrhau bod y Cynllun Cymorth Prynu a'r ddarpariaeth o dai ar rent yn gwneud gwahaniaeth.Bydd yr holl ymgyrchu yn cyrraedd penllanw gyda'r rali fawr 'Dyfodol i'n Cymunedau' a fydd yn cael ei gynnal yn Neuadd Undeb y Myfyrywr, Cerdydd, ar Ddydd Sadwrn Tachwedd 15ed 2003. Ymysg y rhai fydd yn cymryd rhan bydd Alun Ffred Jones AC, Leanne Wood AC a'r Athro Hywel Teifi Edwards. Bryd hynny, ar drothwy'r gyllideb, bydd cyfle arall i bobl Cymru i alw a y Llywodraeth i weithredu er lles ein cymunedau.Stori BBC Cymru'r Byd