Cydweithio yn allweddol i sicrhau addysg Gymraeg

Yn dilyn cyfarfod fforwm Tynged yr Iaith Sir Gâr: Addysg yw'r Allwedd a drefnwyd gan ranbarth Sir Gâr Cymdeithas yr Iaith heddiw (15/10/2022) dywedodd Ffred Ffransis:

"Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Arweinydd y Cyngor, Darren Price, a swyddogion adran addysg y sir am ddod i'r fforwm ac am fod yn barod i drafod gyda ni.
"Roedd hi'n galonogol clywed Darren Price a Calum Higgins, cyn-gynghorydd sir Llafur a fu'n rhan bwysig o'r Gweithgor a sefydlwyd i atal dirywiad a sicrhau adfer y Gymraeg yn y sir, yn dweud bod angen cydweithio rhwng y pleidiau ac ar draws y cyngor er lles addysg plant y sir. Bydd hyn yn allweddol i sicrhau nid yn unig addysg Gymraeg i bawb ond addysg i blant yn eu cymunedau."

Mae lluniau i'w gweld yma