Mae Urdd Gobaith Cymru yn galw am adolygu Deddf yr Iaith Gymraeg. Nod yr Urdd yw sicrhau y cyfle trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, i holl ieuenctid Cymru i ddatblygu’n unigolion cyflawn, a’u galluogi i chwarae rhan adeiladol yn y gymdeithas, gan feithrin sgiliau personol a chymdeithasol. Er mwyn creu’r amgylchfyd gorau i’r mudiad allu cyflawni hyn, mae’n amserol, bedair mlynedd ar ddeg wedi’r Ddeddf Iaith ddiwethaf, i adolygu’r ddeddfwriaeth, ac i ystyried cyflwyno gwelliannau iddi i’w gwneud yn fwy perthnasol i Gymru heddiw.
Fel rhan o’r ymgynghoriad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar yr uno â Bwrdd yr Iaith Gymraeg rhai misoedd yn ôl, galwodd Urdd Gobaith Cymru am adolygiad o’r Ddeddfwriaeth bresennol yn ymwneud â’r Gymraeg.Mae’r cysyniad o hawliau yn arbennig o berthnasol ym maes plant a phobl ifanc, ac mae’r Urdd am sicrhau’r hawl i bawb i dderbyn gwasanaeth ieuenctid, yn eu dewis iaith. Mae sicrhau gwell statws i’r Gymraeg yn y gweithle hefyd yn bwysig i blant a phobl ifanc yn enwedig y rheiny sydd yn derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gofio bod cefndir ieithyddol y disgyblion yn amrywiol.Mae gwaith yr Urdd yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ddefnyddio’r iaith mewn sefyllfaoedd hamdden a chymdeithasol, ac yn datblygu eu sgiliau a’u hyder ieithyddol, yn unol ag amcan ‘Iaith Pawb’ o greu cymdeithas ddwyieithog.Gan fod pwerau newydd bellach gan y Cynulliad, dylai aelodau’r cynulliad sicrhau’r amser a’r sylw angenrheidiol i drafod ac i arwain gwelliannau yn y maes hwn. Gwyddom fod gan Iwerddon drefniant sy’n cynnwys Comisiynydd Iaith, a chredwn y gallai hwn fod yn batrwm i’w ddilyn.Mae hefyd yn amserol adolygu’r Ddeddf yng nghyd-destun y newidiadau sydd yn digwydd ar hyn o bryd yn y maes cydraddoldeb, a’r posibilrwydd y bydd Mesur Sengl Cydraddoldeb newydd yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth San Steffan. Bryd hynny, bydd angen cymharu pwerau Bwrdd yr Iaith Gymraeg gyda’r pwerau a gynigir gan y Mesur Sengl ar gyfer y meysydd cydraddoldeb eraill.Cynhaliwyd cyfarfod ar faes yr Eisteddfod ar ddydd Iau 31 Mai o fudiadau Cymraeg eraill sydd hefyd yn awyddus i rhoi cefnogaeth i ystyriaeth am adolygu'r Ddeddf Iaith, a bydd cyfarfod pellach yn digwydd ar 29 Mehefin.Byddai croeso i fudiadau eraill ymuno hefyd yn y trafodaethau i ystyried beth fyddai’r dulliau gorau i gyflawni’r amcan hwn. Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd:"Mae gan yr Urdd draddodiad hir o arwain ym mywyd diwylliannol y genedl, ac o gyfrannu mewn ffordd eithriadol o gadarnhaol i sicrhau dyfodol i’r Iaith, a’n bwriad wrth wneud y cyhoeddiad hwn yw annog gwleidyddion Cymru i sicrhau’r amgylchiadau gorau i’r Gymraeg ffynnu."Datganiad gwreiddiol yma (pdf - urdd.org)