Visca Barcelona - nid yw Cymru ar ben ei hun yn y frwydr i reoleiddio’r farchnad dai

Yn rali Nid yw Cymru ar werth ar Faes yr Eisteddfod am 2yh ddydd Mercher (9 Awst), bydd Cymdeithas yr Iaith yn gwneud cyhoeddiad pwysig am ddigwyddiad rhyngwladol a fydd yn rhoi dimensiwn newydd i’r ymgyrch. Bydd baner newydd yn ymddangos yn dwyn y geiriau "Visca [sef Viva mewn Catalaneg] Barcelona - Cymru am byth".

Ar ran y Gymdeithas, esbonia Walis George:

“Byddwn yn dangos yn y rali nad ydym ar ein pennau ein hunain yng Nghymru yn y frwydr i sicrhau fod polisiau tai yn ateb anghenion cymunedau lleol yn hytrach na bod yn fodd i greu elw i fuddsoddwyr. Ledled Ewrop, mae pobloedd yn poeni am ddyfodol eu cymunedau, a bydd gyda ni gyhoeddiad o bwys yn y rali.”

Llynedd fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith lunio cynigion ar gyfer Deddf Eiddo fyddai’n rheoleiddio’r farchnad tai. Wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i greu papur gwyn ar Ddeddf Eiddo a Rhenti Teg mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn edrych ar enghreifftiau o ymyraethau sy’n cael eu denfyddio mewn gwledydd eraill sy’n wynebu problemau tai tebyg.

Wrth annerch y rali bydd Walis George yn cyfeirio at yr hyn sy’n digwydd ym Marcelona yn benodol i fynd i’r afael â phroblemau tai.