"Why be there if you can't even speak Welsh?" cyhuddo'r llysoedd o gamwahaniaethu

achos-jamie-caerdydd-1.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi gwneud cwyn swyddogol i wasanaeth y llysoedd ar ol i swyddog awgrymu na ddylai pobl ddi-Gymraeg gefnogi'r iaith.Treuliodd Jamie Bevan dros hanner awr yn ceisio derbyn gwasanaeth Cymraeg yn ymwneud â'i achos ar ôl iddo chwistrellu'r gair "Hawliau" ar adeilad Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd fel rhan o ymgyrch am ddeddfwriaeth iaith gyflawn. Cafodd Mr Bevan ei ryddhau yn amodol am chwe mis heb ddirwy na chostau llysFe ddyweddodd swyddog wrth bartner Mr Bevan sydd yn ddi-Gymraeg a oedd am ei gefnogi yn y llys, 'do you really need to be there? [yn yr achos llys]' a 'so why do you want to be there if you can't even speak welsh?'. Mae'r mudiad wedi cwyno wrth y llys a Bwrdd yr Iaith Gymraeg.Yn siarad o flaen y llys, fe fydd Jamie Bevan yn honni bod y llysoedd yn trin y Gymraeg fel problem yn hytrach na chyfrwng byw a naturiol:"Wnaeth fy mhartner, sydd yn dysgu Cymraeg, cysylltu i ofyn a fydda offer cyfiethu ar ei chyfer dim ond i gael yr ymatebion 'Do you have to go?' a 'Why do you want to go if you can't speak Welsh?' Mae'n amlwg bod y Gymraeg yn cael ei weld fel problem yn hytrach na chyfrwng byw naturiol. Sydd yn peri'r cwestiwn a fasa'r llys yn delio a materion cyfleoedd cyfartal eraill yn yr un modd? Dwi'n herio unrhywun sydd yn dweud bod gwasanaethau Gymraeg eisoes ar gael i drio cael mynediad i'r gwasanaethau hynny. Ffoniwch y cyngor ym Merthyr a gweld sut ymateb cewch chi. Mynnwch cynnal eich busnes trwy gyfrwng y Gymraeg a gweld yr ymateb ryfeddol y ceir.""Mae'r sefyllfa yn un trychinebus ac os nad yw pethau'n newid nawr fe fydd yn andwyol ar yr Iaith Gymraeg. Dyw'r llywodraeth ddim yn gwrando, ac yn sicr dyw busnesau mawr ddim yn gwrando. Dyna pam weithredais i."

Ar yr un dydd â'r achos, fe fydd y mudiad iaith, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn lansio ymgyrch newydd o'r enw "Hawliau i'r Gymraeg". Cefnogwyd gwelliant aflwyddiannus gan 18 Aelodau Cynulliad i Fesur Iaith a fyddai wedi golygu hawliau cyffredinol i'r iaith Gymraeg, sef rhagdybiaeth gyfreithiol y gallai unigolion dderbyn gwasanaethau yn Gymraeg.Fe basiwyd y Mesur Iaith Gymraeg ym Mis Rhagfyr y llynedd a fydd yn sefydlu'r iaith fel un swyddogol a chreu rôl Comisiynydd Iaith.Ychwanegodd Catrin Dafydd, llefarydd y gr?p Hawliau i'r Gymraeg:"Mae egwyddor graidd ar goll yn y mesur a basiwyd gan y Cynulliad cyn y Nadolig. Nid yw'n rhoi hawliau iaith i bobl Cymru. Er hyn, cefnogwyd gwelliant i'r perwyl hwnnw gan 18 Aelod Cynulliad o dair plaid wahanol, ac roedd hynny'n gam hynod arwyddocaol."Fel y saif y mesur ar hyn o bryd does dim egwyddor yn gyrru'r dyletswyddau ar rai cyrff i ddarparu gwasanaeth Cymraeg ac felly o heddiw ymlaen, fe fyddwn yn newid enw ein hymgyrch i "Hawliau i'r Gymraeg" am mai dyma'r egwyddor sydd ar goll yn y mesur. Ni fydd sicrhau statws swyddogol ar ei ben ei hun yn grymuso pobl yn eu cymunedau, a bydd diffygion y Mesur yn siwr o ddangos hynny yn y dyfodol. Mae'r gydberthynas rhwng statws a hawliau yn ddiymwad, ac mae'r grym fyddai gan hawliau i sicrhau fod y safonau'n cael eu gweithredu'n effeithiol yn gwbwl amlwg. Ein bwriad fel ymgyrchwyr yw galw am ddeddfwriaeth newydd yn y Cynulliad nesaf - deddfwriaeth a fydd yn grymuso dinasyddion drwy sicrhau hawliau i bobl weld, clywed, dysgu a defnyddio'r Gymraeg yn eu cymunedau, ledled Cymru."