WYTHNOS DYWYLL I'R GYMRAEG YN SIR GÂR

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cychwyn ymgynghoriad statudol chwe wythnos ar gynnig i gau Ysgol gyfrwng Cymraeg Mynydd-y-Garreg ger Cydweli tra bo'r ysgol ei hun ar gau oherwydd pandemig.

Ar yr un pryd bydd gofyn i'r Cyngor Sir dderbyn drafft ddiweddaraf y Cynllun Datblygu Lleol (hyd at 2033) er bod swyddogion yn cyfaddef y bydd y cynllun yn cael effaith negyddol ar y Gymraeg. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud fod hon yn "wythnos dywyll i'r Gymraeg yn Sir Gâr".

Ar ran y Gymdeithas yn lleol, dywed Bethan Williams: "Mae'r Cyngor Sir yn gweithredu mewn modd arbennig o greulon trwy gynnal ymgynghoriad ynghanol pandemig tra bod yr ysgol ei hun ar gau, a rhieni'n gyfyngedig i'w cartrefi. Yn ogystal â gorfod ymdrin â chaledi'r pandemig, mae'r gymuned leol yn awr yn gorfod wynebu colli'r ysgol sy'n ganolbwynt i fywyd diwylliannol  a chymdeithasol Cymraeg y pentre. Mae'n dorcalonnus iddyn nhw, a does dim modd trefnu ymgyrch dorfol i amddiffyn yr ysgol fel a wnaed mor effeithiol gan Ray Gravell yn ôl yn 2006. Gall hyn fod yn ergyd i'r Gymraeg oherwydd gallai rhieni yn y dyfodol anfon eu plant i ysgol gyfrwng-Saesneg pe bai ysgol y pentre'n cau. Rydyn ni hefyd yn cymryd cyngor cyfreithiol i weld a oedd hawl gan y Gweinidog Addysg ddefnyddio pwerau argyfwng yr wythnos ddiwethaf i ganiatáu diwygio Cod Trefniadaeth Ysgolion er mwyn i Awdurdodau Lleol benderfynu ar ddyfodol ysgolion tra'u bod nhw ar gau a llai o gyfle gan rieni i wrthwynebu."

Ychwanegodd "A'r un wythnos bydd gofyn i gyfarfod o Gyngor Llawn Sir Caerfyrddin dderbyn y ddrafft ddiweddaraf o Gynllun Datblygu Lleol sydd, yn ôl cyfaddefiad swyddogion y Cyngor ei hun, yn debyg o gael "minor negative impact on the Welsh language". Credwn y bydd effaith caniatáu rhagor na 8000 o dai newydd yn cael effaith sy'n fwy na "minor" ar y Gymraeg, ac mae Comisiynydd y Gymraeg a hyd yn oed Llywodraeth Cymru wedi ymateb i awgrymu fod nifer y tai'n ormodol ac nad yw'r effaith ar y Gymraeg wedi'i ystyried yn iawn. Mae'r cyfan yn codi o agenda Dinas-Ranbarth Bae Abertawe sy'n ystyried Sir Gâr yn "dormitory" i ardal Abertawe.
"Rydyn ni'n falch y bydd cynnig yn yr un cyfarfod i fynnu grymoedd newydd gan y llywodraeth i reoli tai haf, ond yr awgrym yw nad yw'r llaw chwith yn gwybod beth mae'r llaw dde yn ei wneud o ran cynllunio dyfodol i'n cymunedau Cymraeg. Mae hon wir yn wythnos dywyll i'r Gymraeg yn Sir Gâr"