Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar i Lywodraeth Cymru gynnig rhagor o gymorth i bapur y Cymro wrth longyfarch gwirfoddolwyr ar eu cynlluniau i'w ail-sefydlu flwyddyn nesaf.
Dywedodd Aled Powell, cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith
"Mae'r gwirfoddolwyr hyn yn gwneud gwaith gwych i adfer papur Cymraeg. Mae'n hollbwysig ein bod â nifer fawr o lwyfannau sy'n trin a thrafod materion y dydd drwy gyfrwng y Gymraeg. Fodd bynnag, mae'n glir nad yw'r cymorth gan Gyngor Llyfrau Cymru yn ddigonol i gynnal papur wythnosol, yn enwedig i fenter newydd sydd gyda chostau sefydlu. Yn wir, mae'n friwsion yn nhermau cyllideb gyfan y Llywodraeth. Mae'r Gymraeg yn haeddu llawer iawn mwy o gefnogaeth er mwyn sicrhau amrywiaeth eang o gyfryngau Cymraeg, a byddwn ni'n galw am hynny dros y misoedd i ddod. "