Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar bwyllgor o Gyngor Sir Caerfyrddin i gyfarwyddo swyddogion y Cyngor i “weithio mewn partneriaeth gyda llywodraethwyr ysgol leol i ddatblygu model newydd a allai greu gobaith i gymunedau eraill.”
Mae llywodraethwyr a’r gymuned leol ym Mancffosfelen wedi brwydro i gadw eu hysgol ers 12 mlynedd ers i’r Cyngor Sir roi’r ysgol ar restr o ddwsinau o ysgolion yr hoffent eu cau. Ddydd Mercher nesaf, bydd Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant y Cyngor yn trafod dyfodol yr ysgol.
Gerbron y pwyllgor bydd adroddiad gan lywodraethwyr yr ysgol yn cynnig ffordd ymlaen o sefydlu Ymddiriedaeth Gymunedol i gynnal yr ysgol fel Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir. Mae Cymdeithas yr iaith wedi datgan ei chefnogaeth i’r cynllun a dywed Ffred Ffransis ar ran Rhanbarth Caerfyrddin o’r Gymdeithas “Gall hwn fod yn gynllun peilot a fydd yn rhoi gobaith i lawer o’n cymunedau pentrefol Cymraeg. Mae cyfle i arweinwyr newydd y Cyngor ddangos eu bod yn barod i weithio mewn partneriaeth gyda chymunedau lleol i sicrhau dyfodol byw iddynt”
Yn ei lythyr at gadeirydd y Pwyllgor Craffu y Cyng Eirwyn Davies, dywed Mr Ffransis
“A fyddai modd i chi drosglwyddo i gyfarfod Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant Cyngor Sir Caerfyrddin yn eich cyfarfod Ddydd Mercher nesaf y 9ed fod Cymdeithas yr Iaith yn gefnogol iawn i gais llywodraethwyr Ysgol Bancffosfelen am sefydlu Ymddiriedolaeth Gymunedol i gynnal yr ysgol fel Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir ac i ddatblygu'r safle'n adnodd cymunedol.
Gall hwn fod yn ddatblygiad cyffrous newydd ac yn gynllun peilot o ran adnewyddu ein cymunedau pentrefol Cymraeg a sicrhau addysg o safon i'r plant yn eu cymuned. Mae cyfle'n awr i Gyngor dorri'r cylchdieflig o ddatgan bwriad i gau ysgol, sydd yn ei dro'n golygu fod rhieni'n symud eu plant, sy'n golygu wedyn fod ysgol yn cau a bod teuluoedd ifainc eraill yn llai parod i brynu taui mewn pentre heb ysgol. Fel hyn y mae ein cymunedau pentrefol wedi dirywio, ac mae rhieni ac eraill yn colli teimlad o berchnogaeth ar addysg eu plant.
Yn lle dewis yr opsiwn biwrocrataidd rhwydd o gynnig cau ysgol, mae gan swyddogion y sir gyfle gwirioneddol i gydweithio gyda llywodraethwyr brwd i ddatblygu model newydd mewn partneriaeth a chymuned leol. Gall hyn greu gobaith i gymunedau eraill. Gofynnwn i'ch pwyllgor gyfarwyddo swyddogion i ymroi i drafodaethau cadarnhaol a difrifol gyda'r llywodraethwyr."