Ydy'r strategaeth iaith yn gweithio?

Mae ffigyrau sy'n dangos bod nifer o siaradwyr Cymraeg sefydliadau cyhoeddus yng Ngheredigion wedi gostwng ers 2015 wedi codi cwestiynau am strategaeth hybu'r Gymraeg Ceredigion.

Mewn llythyr at Brif Weithredwr ac Arweinydd Cyngor Ceredigion mae Cymdeithas yr Iaith yn nodi nifer o bethau sydd ar goll o'r strategaeth gan fod pwyslais ar gynnal yr hyn sy'n digwydd eisoes yn hytrach na datblygu ac adeiladu.

Ymysg argymhellion y Gymdeithas mae galw bod:

  • Holl sefydliadau Bwrdd Gwasanaethau Lleol Ceredigion yn sicrhau fod sgiliau yn yr iaith Gymraeg yn orfodol ar gyfer eu holl swyddi gan nodi sut mae'r holl sefydliadau yn mynd i hybu a chefnogi eu gweithwyr i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle
  • Cynnwys y sector breifat a masnachol yn y Strategaeth er mwyn i'r Gymraeg fod yn weledol ar y stryd fawr ac yn adlewyrchu Cymreictod Ceredigion. 
  • Cefnogi siaradwyr Cymraeg a datblygu sgiliau Cymraeg gweithwyr sydd wedi eu hyfforddi mewn meysydd arbenigol er mwyn eu galluogi i ddychwelyd neu aros yng Ngheredigion i weithio

Dywedodd llefarydd ar ran y Gymdeithas yn lleol:
"Cwympo mae'r nifer o siaradwyr Cymraeg ac os yw'r Cyngor Sir a sefydliadau cyhoeddus eraill eisiau atal hynny mae angen strategaeth flaengar sydd yn mynd i'r afael â phroblemau fel allfudo. Yn fwy na hynny faint o bobl sydd yn gwybod fod y strategaeth hon yn bod? Pam na fyddai'r Cyngor wedi manteisio ar yr holl grwpiau a mudiadau cymunedol sydd yng Ngheredigion er mwyn i bawb chwarae rhan? Yr un yw'n dyhead yn y pen draw."

Lluniwyd y Strategaeth Hybu gan Grŵp Gweithredol Bwrdd Gwasanaethau Lleol Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn unol â Safonau'r Gymraeg. Mae i'w weld yma

Mae llythyr llawn Cymdeithas yr Iaith at Gyngor Ceredigion i'w weld yma

Y stori yn y wasg:

Language policy criticised as number of Welsh speakers falls - Carmarthen Journal

 

Public sector staff ‘must speak Welsh’ - Cambrian News 27/9/16

ac ymateb y Cyngor Sir - Cambrian News 9/10/16