Ymatal rhag bwyta i fynnu datganoli darlledu i Gymru

Mae dros ddwsin o ymgyrchwyr wedi dechrau ymatal rhag bwyta heddiw (dydd Mawrth, 2il Ionawr) er mwyn pwyso am ddatganoli pwerau darlledu i Gymru. 

Daw'r newyddion ar drothwy cyhoeddi adroddiad adolygiad annibynnol o S4C, sydd i fod i ystyried, ymysg materion eraill, a ddylid datganoli cyfrifoldeb dros S4C o San Steffan i'r Cynulliad Derbyniodd yr adolygiad ddeiseb gyda thros fil o enwau arni yn galw am bwerau i symud o Lundain i Gaerdydd. Yn 2013, daeth Comisiwn Silk – adolygiad trawsbleidiol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Prydain – i'r casgliad y dylai rheolaeth dros gyfraniad ariannol Llywodraeth Prydain i S4C gael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru.  

Ar hyn o bryd, mae dros hanner cant o bobl yn gwrthod talu am eu trwydded deledu fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i ddatganoli darlledu.  

Ymysg y grŵp o 14 ymgyrchydd sy'n mynd i fynd heb fwyd am gyfnod o 24 awr mae Elfed Wyn Jones, ffermwr 20 mlwydd oed o Drawsfynydd. Esboniodd pwrpas y weithred gan ddweud: 

"Mae momentwm tu ôl i'r ymgyrch a galla i addo y bydda i ac eraill yn dwysáu'r ymgyrch dros y misoedd nesaf os nad yw'r Llywodraeth yn Llundain yn ymateb yn gadarnhaol.  O ddiffyg presenoldeb y Gymraeg ar radio masnachol, teledu lleol a’r toriadau difrifol i S4C i’r diffyg cynnwys Cymreig yn y cyfryngau, mae’n glir nad yw Llundain yn rheoli'r cyfryngau er budd pobl Cymru. Mae angen i’r penderfyniadau dros y cyfryngau yng Nghymru gael eu gwneud gan bobl Cymru.  Mae'r mwyafrif helaeth o bobl Cymru o blaid hynny ac mae 'na gonsensws trawsbleidiol dros ddatganoli rhai cyfrifoldebau. Mae’n bryd datganoli darlledu, nid yn unig er lles y Gymraeg, ond er lles democratiaeth Gymreig yn ehangach. " 

Yn ôl canlyniadau’r arolwg YouGov y llynedd, mae 52% o bobl yn cefnogi rhoi’r cyfrifoldeb dros y cyfryngau yn nwylo’r Cynulliad tra bod dim ond 27% eisiau i wleidyddion yn San Steffan gadw’r grym. Gan eithrio’r bobl a ddywedodd nad oedden nhw’n gwybod, roedd 65% o blaid datganoli a 35% yn erbyn datganoli pwerau dros ddarlledu i Gymru.  

Ychwanegodd Aled Powell, tad i 2 o blant sy'n byw yn Wrecsam, sy'n ymprydio ac yn gadeirydd ar grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith:  

“Mae pobl gyffredin o bob cwr o'r wlad yn dechrau gwneud safiad yn erbyn system sy'n amddifadu pobl o'r cyfryngau sy'n adlewyrchu eu bywydau a'u dyheadau nhw. Rydyn ni wedi cael hen ddigon o gyfryngau sy'n anwybyddu'r Gymraeg a democratiaeth Cymru. Mae'r BBC yn ceisio traflyncu S4C ac wedi cynorthwyo'r Llywodraeth Geidwadol i dorri ein hunig sianel deledu Gymraeg. Chawn ni ddim tegwch i'r Gymraeg na Chymru os yw darlledu yn parhau i gael ei reoli gan Lundain." 

Mae hi hefyd yn amlwg bod diffyg democrataidd sylweddol yng Nghymru: mae'r darlledwyr Prydeinig yn drysu pobl drwy adrodd ar yr holl benderfyniadau sy'n effeithio ar Loegr yn unig. Nawr yw'r amser i sicrhau ein bod ni yng Nghymru yn rheoli ein cyfryngau er lles yr iaith a holl gymunedau Cymru."