Mae Cymdeithas yr Iaith yn croesawu cyhoeddiad gan y Pwyllgor Materion Cymreig ac yn falch fod y Pwyllgor yn gweld yn dda mai y Cynulliad Cenedlaethol ddylai fod â'r cyfrifoldeb i ddeddfu ar yr iaith Gymraeg.Meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:'Mae'n galonogol fod y Pwyllgor Materion Cymreig yn unfrydol eu barn mai'r Cynulliad dylai ddeddfu ar yr iaith Gymraeg. Ond mae'r adroddiad yn dweud y byddai'r Pwyllgor yn dymuno trafod y Gorchymyn eto os oes newidiadau gan y Cynulliad, sy'n achosi pryder oherwydd nid oes angen llusgo traed a gwastraffu amser ymhellach yn y broses hon.'Noda'r adroddiad y dylid cael gwared ar y rhestr o ddarparwyr gwasanaethau yn y Gorchymyn gan ffafrio egwyddorion am resymoldeb unrhyw fesur yn y dyfodol, ond nid ydym yn credu mai lle Gorchymyn sy'n trosglwyddo pwerau yw nodi hyn, ond penderfyniad y Cynulliad wrth lunio mesur.'Noda'r adroddiad fod angen ailystyried y trothwy o £200,000 ar gyfer cyrff cyhoeddus, ac mae Cymdeithas yr Iaith yn gryf yn erbyn gosod trothwy oherwydd dylai'r holl bwerau dros bob sector mewn perthynas â'r iaith Gymraeg gael eu trosglwyddo i'r Cynulliad. Rydym yn anghytuno ag ymgais y Pwyllgor i wanhau'r Gorchymyn drwy awgrymu y dylai taliadau unigol i gyrff llywodraeth, busnesau bach, ac elusennau gael ei ddileu o'r Gorchymyn.
'Cred y Pwyllgor nad oes angen gwneud y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Mae Cymdeithas yr Iaith yn credu'n gryf fod rhaid gwneud yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol oherwydd y grym normaleiddio i adnabod ein hunain fel gwlad ddwyieithog ac am mai dyna'r trend Ewropeaidd o greu statws cyfartal i sawl iaith mewn un wlad.'Dywed yr adroddiad ymhellach fod anghysondeb yn y rhestr o ddarparwyr, sef yn union beth rydym ni wedi bod yn ei ddweud oherwydd dylai bobl Cymru gael hawl i wasanaethau Cymraeg ar draws pob gwasanaeth; e.e. cynnwys trenau ond ni bysiau, telegyfathrebu ond nid banciau. Rôl y Cynulliad fydd pennu cyfrifoldebau Comisiynydd Iaith Gymraeg yn y broses o wneud mesur.'Cred Cymdeithas yr Iaith fod angen i unrhyw fesur iaith gael ei greu a'i drafod yma yng Nghymru; ac y dylai gwmpasu'r sector breifat yn ei gyfanrwydd, er mwyn sicrhau hawliau ieithyddol i bobl Cymru.Ychwanegodd Menna Machreth:'Rydym yn llongyfarch aelodau o'r Pwyllgor, o bob plaid, am roi dyfodol y Gymraeg o flaen gwleidyddiaeth bleidiol. Er ein bod ni wedi cael y cyhoeddiad hwn rhaid sicrhau ei fod yn cael ei weithredu yn syth ac nad ydy'r Llywodraeth yn llusgo'u traed. Mae pobl Cymru wedi gorfod gwneud y tro â gwasanaethau Cymraeg tocenistig os o gwbl yn ddigon hir, mae'n bryd rhoi hawl i'r Gymraeg i'r rheiny sydd am fyw drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn creu sefyllfa fwy cyfartal i'r iaith yng Nghymru.'GOLWG360 - Caerdydd nid Llundain i ddeddfu ar y GymraegBBC CYMRU - Cais iaith: Cyhoeddi adroddiadBBC WALES - Clarity call on language powersBLOG VAUGHAN RODERICK - Boddi mewn geiriauBLOG BETSAN POWYS - Not like that. Like this!