Ymateb Cymdeithas yr Iaith i benodiad y Comisiynydd iaith

meri-huws.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i benodiad Comisiynydd y Gymraeg newydd, Meri Huws.Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Rydym yn croesawu'r ffaith bod yna benodiad, gobeithiwn y bydd Meri Huws yn cymryd y cyfle i gydnabod y newidiadau sylweddol sydd angen er lles y Gymraeg. Edrychwn ymlaen at gwrdd â hi yn fuan, yn dilyn ein cyfarfod cyffredinol yn Wrecsam dros y Sul, er mwyn iddi wneud y gorau o'r ddeddfwriaeth newydd yn syth."Rydym yn disgwyl i'r Comisiynydd fod yn llais annibynnol dros y Gymraeg ac i roi buddiannau pobl Cymru yn gyntaf, yn hytrach na dilyn tueddiad yr hen Fwrdd yr Iaith, asiantaeth o'r Llywodraeth oedd yn canolbwyntio ar gyfaddawdu â busnesau a sefydliadau mawrion. Mae cyfle i wireddu hyn gyda'r swydd newydd hon a dyna fydd yr her felly i'r Comisiynydd."Er bod nifer o wendidau yn y gyfundrefn a sefydlir yn y Mesur, gydag ewyllys da ac ymroddiad clir gan y Comisiynydd a'r Llywodraeth gallwn ni wneud gwahaniaeth. Gobeithiwn y bydd yn bosib gwella gwasanaethau i siaradwyr Cymraeg yn ogystal ag eraill megis dysgwyr a rhieni gyda phlant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.""Gobeithiwn y bydd y Comisiynydd yn sicrhau hawliau i bobl Cymru i wasanaethau Cymraeg o safon drwy osod dyletswyddau clir ac uchelgeisiol ar gyrff a chwmnïau. Mae hefyd angen iddi daclo'r camwahaniaethu yn erbyn siaradwyr Cymraeg yn y gweithle, trwy sicrhau hawliau pobl i weithio yn Gymraeg. Gobeithiwn y gallwn droi sefydliadau Cymru yn ddwyieithog yng ngwir ystyr y gair lle mae defnydd sylweddol o'r Gymraeg yn fewnol; mae hon yn faes nad yw'r Cynulliad na'r Llywodraeth yn dangos arweiniad ar hyn o bryd."