Ar drothwy yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Gynllun Datblygu Unedol Cyngor Sir Ceredigion, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi datgan pryder ynglyn â lle yr iaith Gymraeg o fewn y broses.
Bydd cyfarfod cyntaf yr Ymchwiliad yn cael ei gynnal yfory (Mawrth 18/1). Ar ddechrau’r cyfarfod hwnnw, fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno cwyn swyddogol i arweinwyr yr Ymchwiliad – Stephanie Chivers ac Alwyn Nixon – a fydd yn condemio methiant y broses hyd yn hyn i drin y Gymraeg yn gyfartal i’r Saesneg yn unol a gofynion Deddf yr Iaith Gymraeg. Mae copi o’r cwyn eisioes wedi cael ei ddanfon at Carwyn Jones – gweinidog Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad Llywodraeth y Cynulliad.Mae pryder Cymdeithas yr Iaith yn deillio o’r ddogfennaeth uniaith Saesneg – yn cynnwys papurau tystiolaeth pwysig – a dderbyniwyd o swyddfa’r Ymchwiliad ac hefyd o’r ffaith fod dim un o’r arolygwyr annibynnol, a benodwyd gan y Cynulliad, yn gymwys i gadeirio gwrandawiadau trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn wir, o ystyried mor ganolog yw lles y Gymraeg i’r holl drafodaethau ynglyn â’r Cynllun Datblygu Unedol, mae’r methiannau hyn yn cwestiynnu i ba raddau y bydd casgliadau yr ymchwiliad yn rhoi sylw dyledus i ddyfodol yr iaith.Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu dwy waith ar Carwyn Jones yn gofyn iddo sut y bydd yn sicrhau bod angenion y Gymraeg yn cael ei sylw dyledus yn ystod yr ymchwiliad. Ni dderbyniwyd ateb i ddim un o’r llythyrau hyn.Meddai Huw Lewis, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:“Mae’r driniaeth ymylol a dderbyniodd y Gymraeg hyd yn hyn, fel rhan o Ymchwiliad Cyhoeddus Ceredigion yn destun pryder difrifol. O ystyried mor ganolog yw lles y Gymraeg i’r holl drafodaethau ynglyn â’r Cynllun Datblygu Unedol, mae’r methiannau hyn yn cwestiynnu i ba raddau y bydd casgliadau yr ymchwiliad yn rhoi sylw dyledus i ddyfodol yr iaith. Yn wir, os nad yw arweinwyr yr Ymchwiliad yn ei gweld hi’n ddigon pwysig i gymryd y cam syml o ddarparu deunudd tystiolaeth dwyieithog, mae ofn gennym taw ymylol hefyd fydd y Gymraeg wrth iddynt ddyfarnu ar faterion dadleuol ym maes cynllunio.”Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r BydStori oddi ar wefan BBC WalesStori oddi ar wefan y Western Mail 19/01/05Stori oddi ar wefan y Western Mail 18/01/05Stori oddi ar wefan y Daily Post