Ymgeisydd Llafur yn trin y Gymraeg yn eilradd

taflen-llafur-dwyrain-caerfyrddin.jpgMae Cymdeithas yr iaith wedi cwyno wrth y blaid lafur heddiw ar ol i ymgeisydd Cynulliad Llafur yn Sir Gaerfyrddin ddosbarthu cyfathrebiad etholiadol swyddogol sydd yn Saesneg yn bennaf.Mae gan Sir Gaerfyrddin y nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Er hynny 15% o'r geiriau ar y daflen yn unig - sydd yn cael ei dosbarthu yn enw ymgeisydd y blaid lafur yn Nwyrain Sir Gaerfyrddin a Dinefwr, Anthony Jones - sydd yn y Gymraeg, ac mae'r penawdau yn Saesneg.Mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin, Sioned Elin, wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Cyffredinol y blaid lafur, ar ol derbyn cwynion oddi wrth aelodau'n lleol. Dywed y llythyr:"Mae nifer o'n haelodau wedi derbyn taflen gan eich ymgeisydd lleol sydd wedi'i hysgrifennu yn Saesneg yn bennaf ac sydd hefyd yn rhoi blaenoriaeth i'r iaith honno.""Mae dyfodol yr iaith fel iaith gymunedol o dan fygythiad mawr, ac mae angen i bob corff - boed yn wirfoddol, cyhoeddus, neu breifat - wneud pob ymdrech i wyrdroi dirywiad y Gymraeg yn ein cymunedau. Yn ôl arbenigwyr, mae statws yr iaith yn gymunedol yn ddylanwad pwysig ar ddefnydd y Gymraeg yn lleol. Felly, un o beryglon trin y Gymraeg yn y ffordd eilradd hon ar daflen yn Sir Gar ydy, nid yn unig ei fod yn cythruddo'r cyhoedd, ond hefyd ei fod yn cyfrannu at leihau defnydd y Gymraeg yn ein cymunedau a dirywiad difrifol yr iaith mewn nifer o gymunedau yng ngorllewin Cymru.""Hoffwn ofyn felly, beth yw polisi eich plaid yngl?n â defnydd y Gymraeg ar daflenni, yn enwedig mewn ardaloedd Cymraeg ei hiaith? A ydy yn bolisi eich plaid i drin y Gymraeg fel iaith eilradd fel ar y daflen hon?"Taflen Llafur Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr (PDF)