Ymgyrch 'caru S4C' i ehangu gwaith y darlledwr gydag ail wasanaeth aml-gyfrwng

 

Dylai pobl ddisgwyl i'r Ceidwadwyr gadw at addewid maniffesto i beidio â thorri rhagor o gyllideb S4C, ac felly nawr yw'r amser i drafod ehangu'r darlledwr, yn ôl ymgyrchwyr iaith a fydd yn ymgynnull yn San Steffan heddiw (Dydd Mawrth, 27ain Hydref). 

Bydd y mudiad iaith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyfleu'r neges wrth Aelodau Seneddol mewn digwyddiad yn San Steffan, lle bydd y troellwr disgiau Huw Stephens, David Davies AS a'r gantores Casi Wyn yn siarad am bwysigrwydd y sianel i'r GymraegYn eu maniffesto cyn etholiadau San Steffan eleni, addawodd y Ceidwadwyr Cymreig i 'ddiogelu ariannu' S4C a datganodd yr Ysgrifennydd Diwylliant a'r Ganghellor ym mis Gorffennaf eleni y bydd y Llywodraeth yn gwneud yn iawn am unrhyw doriadau pellach a ddaw o law'r BBCMae ariannu o goffrau’r Llywodraeth ar gyfer S4C wedi cael ei gwtogi o oddeutu £93 miliwn ers 2010 i lawr i £6.8 miliwn y flwyddyn.  

Bydd y mudiad iaith hefyd yn lansio papur sy'n amlinellu model ar gyfer darlledwr aml-lwyfan Cymraeg newydd er mwyn ehangu defnydd y Gymraeg ymysg pobl ifancMae'r mudiad iaith wedi argymell codi cannoedd o filiynau o bunnau drwy dreth newydd - ar hysbysebion a darlledwyr preifat - er mwyn ehangu darlledu cyhoeddus. 

Meddai Curon Wyn Davies, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  

"Ni ddylai fod rhaid poeni am sefyllfa ariannol S4C, gan fod ymrwymiad pendant ym maniffesto'r Ceidwadwyr yn yr etholiadau eleni i beidio â thorri'r gyllideb eto. Byddai unrhyw dro-pedol ar yr ymrwymiad clir hwnnw yn anfaddeuol, ac yn sicr o greu problemau enbyd i'r blaid Geidwadol yn etholiadau'r Cynulliad. Yn lle bod yn amddiffynnol felly, mae'n rhaid edrych ar y potensial i ehangu cylch gwaith y darlledwr, cryfhau ei sefyllfa ariannol, a'i moderneiddio ar gyfer oes pan fo'r ffin rhwng sianel deledu draddodiadol a’r we yn brysur ddiflannu. 

"Dros y degawdau diwethaf, tra buodd twf aruthrol yn nifer y sianeli teledu a gorsafoedd radio Saesneg eu hiaith, mae’r gwasanaethau Cymraeg wedi aros yn eu hunfan, gydag un sianel deledu, un orsaf radio, a gwasanaethau eraill sy’n eilradd o gymharu â’r gwasanaethau Saesneg cyfatebol. Yn aml, beirniadir S4C a Radio Cymru am geisio, a methu, plesio'r holl gynulleidfa Gymraeg. Prin fod modd gwadu bod newidiadau enfawr yn y ffordd y mae cynulleidfaoedd, yn enwedig pobl ifanc, yn gwylio ac yn gwrando ar gynnyrch cyfryngol. Mae patrymau gwylio wedi newid, ac yn parhau i newid ar gyfradd aruthrol. Mae’n bryd felly am wasanaeth Cymraeg newydd sydd wedi ei gynllunio fel endid aml-lwyfan o’r dechrau'n deg, er mwyn symud y Gymraeg ymlaen."