Ymgyrch S4C yn cyrraedd Ewrop

Bydd dirprwyaeth o ymgyrchwyr iaith yn trafod y bygythiadau i S4C mewn cyfarfod â swyddogion uchaf Ewrop heddiw (Dydd Mawrth, Mehefin 7).

Yn ystod ymweliad â Senedd Ewrop yn Strasbwrg bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cwrdd â Chomisiynydd Diwylliant Ewrop Androulla Vasilliou.

Mae Llywodraeth Prydain wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau teledu a radio yn y Gymraeg o dan gytundeb Ewropeaidd. Felly, bydd yr ymgyrchwyr hefyd yn cyfarfod â phennaeth Secretariat Siarter Ewrop dros ieithoedd lleiafrifol Alexey Kozhemyakov sydd yn goruchwylio'r siarter iaith sydd yn cynnwys yr ymrwymiadau hynny.

Bydd y ddirprwyaeth yn trafod gyda'r swyddogion effaith y toriadau ar ymrwymiadau cyfreithiol Llywodraeth Prydain. Toriadau a fyddai'n golygu lleihad sylweddol yng ngweithrediad yr ymrwymiad i wasanaeth teledu Cymraeg o nawr ymlaen, o gymharu â 1998 pan lofnodwyd y Siarter gan y DG.

Yn siarad cyn y daith o Gymru i Strasbwrg sydd wedi ei threfnu gan Jill Evans ASE, fe ddywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"O dan reolau Ewrop mae yna ddyletswydd ar Lywodraeth Prydain i ddiogelu dyfodol S4C, sef unig sianel deledu Gymraeg y byd. Mae newidiadau deddfwriaethol arfaethedig [Ysgrifennydd Diwylliant y DU] Jeremy Hunt yn peryglu dyfodol y sianel; trwy roi rhwydd hynt i weinidogion ddod a'r gwasanaeth i ben trwy wrthod ei hariannu. Mae hynny'n gwbl annibynnol. Mae gyda ni hawliau i wasanaethau teledu a radio trwy'r cytundeb hwn, ac mae rhaid i'r Llywodraeth yn Llundain cadw at eu haddewidion."

"Mae angen gwarant ar gr?p lleiafrifol y bydd ganddyn nhw'r hawl i gyfryngau a fydd o'r un ansawdd a chyfryngau mewn ieithoedd eraill. Ond, mae'r warant Ewropeaidd yna o dan beryg o gael ei dynnu oddi wrthym gyda'r Mesur Cyrff Cyhoeddus gan y gall Gweinidog cwtogi ar y cyllid fel y myn, a gan fod S4C yn colli eu hannibyniaeth gyda'r BBC yn cymryd drosodd."

Wythnos ddiwethaf torrodd newyddion bod Archesgob Cymru Barry Morgan wedi ysgrifennu at y Dirprwy Prif Weinidog Nick Clegg yn gwrthwynebu'r newidiadau i S4C. Ychwanegodd Menna Machreth, llefarydd darlledu'r Gymdeithas:

"Mae barn unedig Cymru yn gwbl glir - gwrthwynebiad gan ddegau o filoedd o bobl mewn ralïau, deisebau, llythyrau yn ogystal â degau o fudiadau ac arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru. Gwnaethpwyd y cynlluniau arfaethedig yn fyrbwyll, hynny yw mewn 48 awr yn unig, heb ymgynghori â neb o Gymru. Mae pawb sy'n gall yn sylweddoli bod y fargen rhwng y Llywodraeth a'r BBC yn Llundain wedi eu gwneud ar frys ffôl. Nid dyna'r ffordd i wneud penderfyniadau. Hyd y nes bod y Llywodraeth yn dechrau o'r newydd, a dod lan a chynllun gall ar ôl ymgynghoriad, mi fydd ein hymgyrch yn parhau."

"Nid yw Gweinidogion Llywodraeth Prydain wedi cwrdd ag unrhyw fudiad sydd yn poeni am ddyfodol S4C, er gwaethaf ein hymdrechion ni ac eraill. Felly, rydym am fynd i ddadlau'r achos ym mhob modd posib. Hyd yn hyn, mae ymddygiad gweinidogion y Llywodraeth wedi bod yn hollol amharchus a sarhaus tuag at bobl Cymru."

Un o amcanion y Comisiynydd Diwylliant ydy i bob dinesydd Ewrop siarad o leiaf dwy iaith dramor yn ogystal â'i hieithoedd eu hunain.

Rhai o aelodau'r ddirprwyaeth fydd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Menna Machreth, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Dr Simon Brooks, aelod o grwp dyfodol digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.