Yn dilyn cyhoeddi adroddiad Pantycelyn mae aelodau Cell Pantycelyn Cymdeithas yr Iaith wedi dweud fod eu gwaith ymgyrchu wedi talu ffordd, er bod ambell bryder o hyd.
Dywedodd Manon Elin, aelod o Gell Pantycelyn:
“Mae'r adroddiad yn cynnwys rhan fwyaf o'r pwyntiau roedden ni wedi galw amdanyn nhw felly mae Pantycelyn mewn sefyllfa llawer gwell nag oedd hi llynedd. Roedden ni'n falch gweld fod y flwyddyn gyntaf mor frwd ag oedden ni llynedd dros gadw'r neuadd, ac wedi cadw pwysau ar y Brifysgol.
“Does dim rheswm pam na all Cyngor y Brifysgol dderbyn yr adroddiad hwn nawr. Mae'r Brifysgol wedi bod yn ddigon parod i wario ar lety newydd sbon yn Fferm Penglais a sefydlu campws cangen y Brifysgol ym Mauritius. A phetai’r Brifysgol wedi gwneud gwaith atgyweirio fel oedd angen dros y degawdau byddai dim angen cau’r neuadd o gwbl”
Mae'r adroddiad yn nodi y bydd Pantycelyn yn ailagor ym mis Medi 2019. Mae myfyrwyr Cymraeg wedi bod yn lletya yn neuadd Penbryn eleni, ond tri choridor sydd ar gyfer myfyrwyr Cymraeg, sydd ddim yn agos at fod yn ddigon yn ôl myfyrwyr.
Ychwanegodd Manon Elin:
“Mae tair blynedd arall yn hir i aros, yn enwedig gan nad oes llety digonol dros dro. Does dim lle cymunedol neu gymdeithasol yn neuadd Penbryn er enghraifft. Bydd tipyn o fyfyrwyr wedi colli'r cyfle i fod yn neuadd Pantycelyn ond o leia y gallwn ni edrych 'mlaen at weld yr hen neuadd yn fyw eto.
“Rydyn ni hefyd yn poeni am bris y llety. Mae Pantycelyn wedi bod gyda’r llety rhataf, am £15.50 y noson, ond mae’r adroddiad yn amcangyfrif y gallai’r gost godi i £22.53 y noson. Er ei fod yn cynnwys bwyd, Pantycelyn fyddai llety drytaf y Brifysgol."