Ymgyrchu yn dwyn ffrwyth - Burger King i fabwysiadu polisi dwyieithog!

logoWAG.jpg Mae bwyty cadwyn Burgerking wedi addo mabwysiadu polisi dwyieithog erbyn y Nadolig. Dyna’r neges a dderbyniodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg heddiw gan reolwr Burgerking yn Aberystwyth.

Rheolwr Burgerking yn Aberystwyth sydd a chyfrifoldeb dros y polisi hwn yng Nghymru ac mae wedi bod mewn cysylltiad gyda’r Gymdeithas dros y flwyddyn ddiwethaf ynglyn a datblygu polisi dwyieithog.Mae’r Gymdeithas wedi trefnu fod cyfieithydd proffesiynol yn ymgymryd â’r gwaith o sicrhau fod y cyfieithu o’r safon uchaf.Dywedodd Dafydd Morgan Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg“Mae’r penderfyniad hwn gan Burgerking i fabwysiadu polisi dwyieithog yn fuddugoliaeth i ymgyrchu diweddar y Gymdeithas dros Ddeddf Iaith Newydd sy’n ymestyn i’r sector breifat."“Yr ydym wedi targedu busnesau preifat drwy Gymru yn yr ymgyrch hon. Bu gweithredu yn Fflint, Bangor, Caernarfon, Aberystwyth, Aberteifi a Chaerdydd a’r penllanw fydd FForwm Genedlaethol i alw am Ddeddf Iaith a gynhelir yn Aberystwyth ar Fawrth 12fed."Stori oddi ar wefan y Western MailStori oddi ar wefan y Daily Post